Lefiticus 10:1-3
Lefiticus 10:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma feibion Aaron, sef Nadab ac Abihw, yn gwneud rhywbeth wnaeth yr ARGLWYDD ddim ei orchymyn. Dyma’r ddau yn cymryd padell dân bob un, rhoi tân arnyn nhw, a llosgi arogldarth. Ond roedden nhw wedi defnyddio tân ddaeth o rywle arall o flaen yr ARGLWYDD. A dyma’r ARGLWYDD yn anfon tân i’w llosgi nhw, a buon nhw farw yno o flaen yr ARGLWYDD. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dyma oedd yr ARGLWYDD yn ei olygu pan ddwedodd e: ‘Dw i am i’r offeiriaid ddangos fy mod i’n sanctaidd, a dw i am i’r bobl weld fy ysblander i.’” Roedd Aaron yn methu dweud gair.
Lefiticus 10:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cymerodd Nadab ac Abihu, meibion Aaron, bob un ei thuser a rhoi tân ynddynt a gosod arogldarth arno; yr oeddent felly'n cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD dân estron nad oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn. Daeth tân allan o ŵydd yr ARGLWYDD a'u hysu, a buont farw gerbron yr ARGLWYDD. A dywedodd Moses wrth Aaron, “Dyma'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD: “ ‘Ymysg y rhai sy'n dynesu ataf fe'm sancteiddir, a cherbron yr holl bobl fe'm gogoneddir.’ ” Yr oedd Aaron yn fud.
Lefiticus 10:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymerasant bob un ei thuser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl-darth ar hynny; ac a offrymasant gerbron yr ARGLWYDD dân dieithr yr hwn ni orchmynasai efe iddynt. A daeth tân allan oddi gerbron yr ARGLWYDD, ac a’u difaodd hwynt; a buant feirw gerbron yr ARGLWYDD. A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma’r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt ataf, a cherbron yr holl bobl y’m gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron.