Galarnad 3:25-28
Galarnad 3:25-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r ARGLWYDD yn dda i’r rhai sy’n ei drystio, ac i bwy bynnag sy’n troi ato am help. Mae’n beth da i ni ddisgwyl yn amyneddgar i’r ARGLWYDD ddod i’n hachub ni. Mae’n beth da i rywun ddysgu ymostwng tra mae’n dal yn ifanc. Dylai rhywun eistedd yn dawel pan mae’r ARGLWYDD yn ei ddisgyblu e.
Galarnad 3:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo, i'r rhai sy'n ei geisio. Y mae'n dda disgwyl yn dawel am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD. Da yw bod un yn cymryd yr iau arno yng nghyfnod ei ieuenctid. Boed iddo eistedd ar ei ben ei hun, a bod yn dawel pan roddir hi arno
Galarnad 3:25-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Daionus yw yr ARGLWYDD i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD. Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid. Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno.