Jwdas 1:17-25
Jwdas 1:17-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond cofiwch, ffrindiau annwyl, fod cynrychiolwyr personol ein Harglwydd Iesu Grist wedi dweud ymlaen llaw am hyn. “Yn y dyddiau i ddod bydd pobl yn chwarae crefydd” medden nhw, “ac yn gwneud dim byd ond dilyn eu chwantau drwg.” Ydyn, maen nhw yma! Nhw sy’n creu rhaniadau yn eich plith chi. Eu greddfau naturiol sy’n eu rheoli nhw. A dydy’r Ysbryd Glân ddim ganddyn nhw reit siŵr! Ond rhaid i chi fod yn wahanol, ffrindiau annwyl. Daliwch ati i adeiladu eich bywydau ar sylfaen y ffydd sy’n dod oddi wrth Dduw. Gweddïo fel mae’r Ysbryd Glân yn eich arwain chi. Byw mewn ffordd sy’n dangos cariad Duw, wrth ddisgwyl yn frwd am y bywyd tragwyddol mae’r Arglwydd Iesu Grist yn mynd i’w roi i chi. Byddwch yn amyneddgar gyda’r rhai sy’n ansicr. Cipiwch allan o’r tân y rhai hynny sydd mewn peryg o losgi. Byddwch yn garedig wrth y rhai sy’n ffraeo ond yn ofalus yr un pryd. Mae eu pechodau nhw’n ffiaidd, fel dillad isaf budron! Clod i Dduw! Fe ydy’r un sy’n gallu’ch cadw chi rhag llithro. Fe fydd yn eich galw i mewn i’w gwmni bendigedig, yn gwbl ddi-fai, i gael profi llawenydd anhygoel! Fe ydy’r unig Dduw, sy’n ein hachub ni drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Mae e’n haeddu ei foli a’i fawrygu, ac mae ganddo nerth ac awdurdod absoliwt. Mae hynny o’r dechrau cyntaf, yn awr yn y presennol, ac am byth! Amen.
Jwdas 1:17-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond dylech chwi, gyfeillion annwyl, gofio'r pethau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist. Dywedasant wrthych, “Yn yr amser diwethaf fe fydd gwatwarwyr, pobl a fydd yn byw yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain.” Dyma'r rhai fydd yn achosi rhaniadau, pobl fydol yn amddifad o'r Ysbryd. Ond rhaid i chwi, gyfeillion annwyl, eich adeiladu eich hunain ar sylfaen eich ffydd holl-sanctaidd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân; cadwch eich hunain yng nghariad Duw, gan ddisgwyl am i'n Harglwydd Iesu Grist yn ei drugaredd roi ichwi fywyd tragwyddol. Y mae rhai y dylech dosturio wrthynt yn eu hamheuon, eraill y dylech eu hachub a'u cipio o'r tân, ac y mae eraill y dylech dosturio wrthynt gydag ofn, gan gasáu hyd yn oed y dilledyn sydd â llygredd y cnawd arno. Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i'ch cadw rhag syrthio, a'ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant, iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y byddo gogoniant a mawrhydi, gallu ac awdurdod, cyn yr oesoedd, ac yn awr, a byth bythoedd! Amen.
Jwdas 1:17-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist; Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain. Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt. Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân, Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol. A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor: Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o’r tân; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd. Eithr i’r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a’ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd, I’r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.