Josua 8:1-8
Josua 8:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn na phanicio! Dos â’r fyddin gyfan i ymosod ar Ai. Dw i’n mynd i roi brenin Ai, ei bobl, ei dref a’i dir, yn dy ddwylo di. Gwna’r un fath ag a wnest ti i Jericho. Ond y tro yma cei gadw unrhyw stwff rwyt ti eisiau, a’r anifeiliaid. Gosod filwyr yr ochr arall i’r dref, yn barod i ymosod arni.” Felly dyma Josua a’i fyddin gyfan yn paratoi i ymosod ar Ai. Dewisodd 30,000 o’i ddynion gorau, i’w hanfon allan ganol nos. Dwedodd wrthyn nhw, “Mae rhai ohonoch chi i fynd i ddisgwyl yr ochr arall i’r dref, mor agos ag y gallwch chi heb gael eich gweld, yn barod i ymosod arni. Bydda i’n arwain gweddill y fyddin i ymosod o’r un cyfeiriad ag o’r blaen. Pan ddôn nhw allan o’r dref i ymladd yn ein herbyn ni, fel y gwnaethon nhw’r tro dwetha, byddwn ni’n troi’n ôl ac yn ffoi o’u blaenau nhw. Byddan nhw’n gadael y dref a dod ar ein holau ni, gan feddwl ein bod ni’n ffoi oddi wrthyn nhw fel o’r blaen. Wedyn byddwch chi’n dod allan o’r lle buoch chi’n cuddio ac yn concro’r dre. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich dwylo chi. Wedyn llosgwch y dref yn llwyr, fel mae’r ARGLWYDD wedi dweud. Dyna’ch ordors chi.”
Josua 8:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Paid ag ofni nac arswydo; cymer y rhyfelwyr i gyd gyda thi, a dos i fyny at Ai. Edrych, yr wyf wedi rhoi yn dy law frenin Ai gyda'i bobl, ei ddinas a'i dir. Gwna i Ai a'i brenin fel y gwnaethost i Jericho a'i brenin, ond cewch gadw ei hanrhaith a'i hanifeiliaid hi yn ysbail i chwi eich hunain. Gosod iti filwyr ynghudd y tu cefn i'r ddinas.” Cychwynnodd Josua a'r holl fyddin i fyny yn erbyn Ai; a dewisodd Josua ddeng mil ar hugain o ryfelwyr dewr, a'u hanfon ymlaen liw nos. Yna gorchmynnodd iddynt fel hyn: “Edrychwch, yr ydych i guddio o olwg y ddinas, y tu cefn iddi; ond peidiwch â mynd yn rhy bell oddi wrthi, a byddwch i gyd yn barod. Byddaf fi a'r holl fyddin sydd gyda mi yn agosáu at y ddinas, a phan ddônt allan i ymosod arnom fel y tro cyntaf, yna byddwn yn ffoi o'u blaen. Fe ddônt hwythau ar ein hôl nes inni eu denu hwy o'r ddinas, gan feddwl ein bod yn ffoi o'u blaen fel y gwnaethom y tro cynt. Codwch chwithau o'ch cuddfan a meddiannu'r dref, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich llaw. Wedi ichwi oresgyn y dref, llosgwch hi â thân. Gwnewch yn ôl gair yr ARGLWYDD; edrychwch, dyma fy ngorchymyn i chwi.”
Josua 8:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna, ac nac arswyda: cymer gyda thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fyny i Ai: gwêl, mi a roddais yn dy law di frenin Ai, a’i bobl, ei ddinas hefyd, a’i wlad. A thi a wnei i Ai a’i brenin, megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenin: eto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn iddi. Yna Josua a gyfododd, a’r holl bobl o ryfel, i fyned i fyny i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a’u hanfonodd ymaith liw nos: Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn i’r ddinas: nac ewch ymhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod. Minnau hefyd, a’r holl bobl sydd gyda mi, a nesawn at y ddinas: a phan ddelont allan i’n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o’u blaen hwynt, (Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o’n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o’u blaen hwynt. Yna chwi a godwch o’r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr ARGLWYDD eich DUW a’i dyry hi yn eich llaw chwi. A phan enilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ôl gair yr ARGLWYDD. Gwelwch, mi a orchmynnais i chwi.