Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 8:1-26

Josua 8:1-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn na phanicio! Dos â’r fyddin gyfan i ymosod ar Ai. Dw i’n mynd i roi brenin Ai, ei bobl, ei dref a’i dir, yn dy ddwylo di. Gwna’r un fath ag a wnest ti i Jericho. Ond y tro yma cei gadw unrhyw stwff rwyt ti eisiau, a’r anifeiliaid. Gosod filwyr yr ochr arall i’r dref, yn barod i ymosod arni.” Felly dyma Josua a’i fyddin gyfan yn paratoi i ymosod ar Ai. Dewisodd 30,000 o’i ddynion gorau, i’w hanfon allan ganol nos. Dwedodd wrthyn nhw, “Mae rhai ohonoch chi i fynd i ddisgwyl yr ochr arall i’r dref, mor agos ag y gallwch chi heb gael eich gweld, yn barod i ymosod arni. Bydda i’n arwain gweddill y fyddin i ymosod o’r un cyfeiriad ag o’r blaen. Pan ddôn nhw allan o’r dref i ymladd yn ein herbyn ni, fel y gwnaethon nhw’r tro dwetha, byddwn ni’n troi’n ôl ac yn ffoi o’u blaenau nhw. Byddan nhw’n gadael y dref a dod ar ein holau ni, gan feddwl ein bod ni’n ffoi oddi wrthyn nhw fel o’r blaen. Wedyn byddwch chi’n dod allan o’r lle buoch chi’n cuddio ac yn concro’r dre. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich dwylo chi. Wedyn llosgwch y dref yn llwyr, fel mae’r ARGLWYDD wedi dweud. Dyna’ch ordors chi.” Felly dyma Josua yn eu hanfon nhw i ffwrdd, ac aethon nhw i guddio rhwng Bethel ac Ai, i’r gorllewin o’r dref. Arhosodd Josua gyda gweddill y bobl. Yna’n gynnar y bore wedyn, dyma Josua yn casglu gweddill ei fyddin, a dyma fe ac arweinwyr eraill Israel yn eu harwain nhw i ymosod ar Ai. Dyma nhw’n gwersylla yr ochr arall i’r dyffryn oedd i’r gogledd o Ai. Roedd Josua eisoes wedi anfon pum mil o ddynion i guddio i’r gorllewin o’r dref, rhwng Bethel ac Ai. Felly roedd pawb yn eu lle – y brif fyddin i’r gogledd o’r dref, a’r milwyr eraill yn barod i ymosod o’r gorllewin. Yna aeth Josua ei hun i dreulio’r nos ar ganol y dyffryn. Y bore wedyn, pan welodd brenin Ai bobl Israel, dyma fe’n arwain ei fyddin allan i ymladd yn eu herbyn. Aeth i’r dwyrain, i le oedd yn edrych allan dros Ddyffryn Iorddonen. Doedd e ddim yn sylweddoli fod dynion yn cuddio yr ochr arall i’r dref. Yna dyma Josua a phobl Israel yn cymryd arnyn nhw eu bod wedi’u curo, a throi’n ôl i ffoi i gyfeiriad yr anialwch. Cafodd dynion Ai i gyd eu galw allan i fynd ar eu holau. A dyna sut cawson nhw eu harwain i ffwrdd oddi wrth y dref. Doedd dim dynion o gwbl ar ôl yn Ai nac yn Bethel. Roedden nhw i gyd wedi mynd ar ôl pobl Israel, ac wedi gadael y dref yn gwbl ddiamddiffyn. Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dal dy waywffon i gyfeiriad Ai. Dw i’n rhoi’r dref yn dy law di.” Felly dyma Josua yn dal ei waywffon i gyfeiriad Ai. Pan wnaeth hynny, dyma’r milwyr oedd yn cuddio yr ochr arall i’r dref yn codi ac yn ymosod arni. Yn syth ar ôl ei chipio, dyma nhw’n ei rhoi ar dân. Pan edrychodd dynion Ai yn ôl, dyma nhw’n gweld y mwg o’r dre yn codi i’r awyr. Doedden nhw ddim yn gwybod lle i droi. Yna dyma fyddin Israel, oedd wedi bod yn dianc oddi wrthyn nhw, yn troi ac yn ymosod arnyn nhw. Roedd Josua a’i fyddin yn gweld fod y milwyr eraill wedi concro’r dre, a’i rhoi hi ar dân. Felly dyma nhw’n troi’n ôl ac yn ymosod ar fyddin Ai. Wedyn dyma’r milwyr oedd wedi concro’r dre yn dod allan i ymladd hefyd. Roedd dynion Ai wedi’u dal yn y canol. Cawson nhw i gyd eu lladd gan filwyr Israel. Wnaeth neb ddianc. Ond roedden nhw wedi dal brenin Ai yn fyw, a dyma nhw’n mynd ag e at Josua. Ar ôl lladd pob un o ddynion Ai oedd wedi dod allan i gyfeiriad yr anialwch i ymladd gyda nhw, aethon nhw yn ôl i Ai a lladd pawb oedd yn dal yn fyw yno. Cafodd poblogaeth Ai i gyd ei lladd y diwrnod hwnnw – un deg dau o filoedd i gyd. Wnaeth Josua ddim rhoi ei gleddyf i lawr i roi diwedd ar yr ymladd nes roedd pobl Ai i gyd wedi’u lladd.

Josua 8:1-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Paid ag ofni nac arswydo; cymer y rhyfelwyr i gyd gyda thi, a dos i fyny at Ai. Edrych, yr wyf wedi rhoi yn dy law frenin Ai gyda'i bobl, ei ddinas a'i dir. Gwna i Ai a'i brenin fel y gwnaethost i Jericho a'i brenin, ond cewch gadw ei hanrhaith a'i hanifeiliaid hi yn ysbail i chwi eich hunain. Gosod iti filwyr ynghudd y tu cefn i'r ddinas.” Cychwynnodd Josua a'r holl fyddin i fyny yn erbyn Ai; a dewisodd Josua ddeng mil ar hugain o ryfelwyr dewr, a'u hanfon ymlaen liw nos. Yna gorchmynnodd iddynt fel hyn: “Edrychwch, yr ydych i guddio o olwg y ddinas, y tu cefn iddi; ond peidiwch â mynd yn rhy bell oddi wrthi, a byddwch i gyd yn barod. Byddaf fi a'r holl fyddin sydd gyda mi yn agosáu at y ddinas, a phan ddônt allan i ymosod arnom fel y tro cyntaf, yna byddwn yn ffoi o'u blaen. Fe ddônt hwythau ar ein hôl nes inni eu denu hwy o'r ddinas, gan feddwl ein bod yn ffoi o'u blaen fel y gwnaethom y tro cynt. Codwch chwithau o'ch cuddfan a meddiannu'r dref, oherwydd bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich llaw. Wedi ichwi oresgyn y dref, llosgwch hi â thân. Gwnewch yn ôl gair yr ARGLWYDD; edrychwch, dyma fy ngorchymyn i chwi.” Wedi i Josua eu hanfon ymaith, aethant i guddfan a'u gosod eu hunain rhwng Bethel ac Ai, i'r gorllewin o Ai. Treuliodd Josua'r noson honno gyda'r fyddin. Cododd Josua a'r henuriaid yn fore drannoeth a chynnull y fyddin a'i harwain tuag Ai. Aeth yr holl fyddin oedd gydag ef i fyny, a nesáu at ymyl y dref a gwersyllu i'r gogledd iddi, gyda dyffryn rhyngddynt hwy ac Ai. Yr oedd wedi dewis tua phum mil o wŷr ac wedi eu rhoi i guddio rhwng Bethel ac Ai i'r gorllewin o'r dref. Yr oedd crynswth y fyddin yn gwersyllu i'r gogledd o'r dref a'r milwyr cudd i'r gorllewin o'r dref; treuliodd Josua y noson honno ar lawr y dyffryn. Pan welodd brenin Ai hwy, brysiodd ef a dynion y dref yn gynnar yn y bore i fynd allan gyda'r holl fyddin i gyfarfod Israel mewn brwydr ar lecyn yn wynebu'r Araba, heb wybod bod milwyr yn llechu y tu ôl i'r dref. Ffodd Josua a'r Israeliaid oll i gyfeiriad yr anialwch, fel pe baent wedi eu taro ganddynt. Galwyd yr holl bobl oedd yn y dref i ymlid ar eu hôl; ac wrth iddynt ymlid ar ôl Josua, fe'u denwyd i ffwrdd o'r dref. Nid oedd neb ar ôl yn Ai na Bethel heb fynd allan ar ôl Israel; gadawsant y dref yn benagored a mynd i ymlid yr Israeliaid. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag Ai, oherwydd yr wyf am roi'r dref yn dy law.” Estynnodd Josua'r waywffon oedd yn ei law tua'r dref; ac fel yr estynnai ei law, cododd y milwyr cudd o'u lle ar unwaith, a rhuthro i mewn i'r dref a'i chipio, a llosgi'r dref heb oedi dim. Pan drodd dynion Ai ac edrych yn eu hôl, gwelsant fwg y dref yn esgyn i'r awyr, ond ni allent ffoi nac yma nac acw, gan fod y fyddin a fu'n ffoi tua'r anialwch wedi troi i wynebu ei herlidwyr; oherwydd pan welodd Josua a holl Israel fod y milwyr cudd wedi cipio'r dref, a bod mwg yn codi ohoni, troesant yn eu hôl ac ymosod ar ddynion Ai. Daeth y lleill allan o'r dref i'w cyfarfod, ac felly'r oeddent yn y canol rhwng dwy garfan o Israeliaid; trawyd hwy heb i neb gael ei arbed na dianc. Daliwyd brenin Ai yn fyw, a daethant ag ef gerbron Josua. Wedi i'r Israeliaid ladd holl drigolion Ai oedd allan yn yr anialwch, lle'r oeddent wedi eu hymlid, a phob un ohonynt wedi syrthio dan fin y cleddyf nes eu difa'n llwyr, yna dychwelodd Israel gyfan i Ai, a'i tharo â'r cleddyf. Nifer y rhai a syrthiodd y diwrnod hwnnw oedd deuddeng mil, yn wŷr a gwragedd, sef holl boblogaeth Ai. Ni thynnodd Josua'n ôl y llaw oedd yn dal y waywffon nes difa holl drigolion Ai.

Josua 8:1-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna, ac nac arswyda: cymer gyda thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fyny i Ai: gwêl, mi a roddais yn dy law di frenin Ai, a’i bobl, ei ddinas hefyd, a’i wlad. A thi a wnei i Ai a’i brenin, megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenin: eto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn iddi. Yna Josua a gyfododd, a’r holl bobl o ryfel, i fyned i fyny i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a’u hanfonodd ymaith liw nos: Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn i’r ddinas: nac ewch ymhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod. Minnau hefyd, a’r holl bobl sydd gyda mi, a nesawn at y ddinas: a phan ddelont allan i’n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o’u blaen hwynt, (Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o’n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o’u blaen hwynt. Yna chwi a godwch o’r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr ARGLWYDD eich DUW a’i dyry hi yn eich llaw chwi. A phan enilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ôl gair yr ARGLWYDD. Gwelwch, mi a orchmynnais i chwi. Felly Josua a’u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arosasant rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewin i Ai: a Josua a letyodd y noson honno ymysg y bobl. A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fyny, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tuag at Ai. A’r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gydag ef, a aethant i fyny, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â’r ddinas, a gwersyllasant o du’r gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai. Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr, ac a’u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du’r gorllewin i’r ddinas. A’r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du’r gogledd i’r ddinas, a’r cynllwynwyr o du’r gorllewin i’r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn. A phan welodd brenin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a foregodasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a’i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o’r tu cefn i’r ddinas. A Josua a holl Israel, fel pe trawsid hwy o’u blaen hwynt, a ffoesant ar hyd yr anialwch. A’r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hôl hwynt: a hwy a erlidiasant ar ôl Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas. Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac yn Bethel, a’r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua’r ddinas. A’r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o’u lle, ac a redasant, pan estynnodd efe ei law: daethant hefyd i’r ddinas, ac enillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân. A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac acw: canys y bobl y rhai a ffoesent i’r anialwch, a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid. A phan welodd Josua a holl Israel i’r cynllwynwyr ennill y ddinas, a dyrchafu o fwg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a drawsant wŷr Ai. A’r lleill a aethant allan o’r ddinas i’w cyfarfod; felly yr oeddynt yng nghanol Israel, y rhai hyn o’r tu yma, a’r lleill o’r tu acw: a thrawsant hwynt, fel na adawyd un yng ngweddill nac yn ddihangol ohonynt. A brenin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josua. Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a thrawsant hi â min y cleddyf. A chwbl a’r a syrthiasant y dwthwn hwnnw, yn wŷr ac yn wragedd, oeddynt ddeuddeng mil; sef holl wŷr Ai. Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hôl, yr hon a estynasai efe gyda’r waywffon, nes difetha holl drigolion Ai.