Josua 7:24-25
Josua 7:24-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Josua a phobl Israel yn mynd ag Achan fab Serach, gyda’i berthnasau a’i eiddo i gyd, i Ddyffryn Achor. (Aethon nhw â’r arian, y clogyn, y bar aur, ei feibion a’i ferched, ei anifeiliaid, ei babell, a phopeth arall oedd piau fe gyda nhw.) Meddai Josua yno, “Pam wnest ti ddod â’r drychineb yma arnon ni? Heddiw mae’r ARGLWYDD yn mynd i ddod â thrychineb arnat ti!” A dyma bobl Israel yn taflu cerrig at Achan nes roedd e wedi marw. A dyma nhw’n gwneud yr un peth i’w deulu, ac yna’n llosgi’r cyrff.
Josua 7:24-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna bu i Josua, ac Israel gyfan gydag ef, gymryd Achan fab Sera, a'r arian a'r fantell a'r llafn aur, a'i feibion a'i ferched, a'i ychen a'i asynnod a'i ddefaid a'i babell, y cwbl a feddai, ac aethant ag ef i fyny i ddyffryn Achor. Dywedodd Josua, “Am i ti ein cythryblu ni, bydd yr ARGLWYDD yn dy gythryblu dithau y dydd hwn.” A llabyddiodd Israel gyfan ef â cherrig, a llosgi'r lleill â thân ar ôl eu llabyddio.
Josua 7:24-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Josua a gymerth Achan mab Sera, a’r arian, a’r fantell, a’r llafn aur, ei feibion hefyd, a’i ferched, a’i wartheg, a’i asynnod, ei ddefaid hefyd, a’i babell, a’r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gydag ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor. A Josua a ddywedodd, Am i ti ein blino ni, yr ARGLWYDD a’th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a’i llabyddiasant ef â meini, ac a’u llosgasant hwy â thân, wedi eu llabyddio â meini.