Josua 7:10-12
Josua 7:10-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’r ARGLWYDD yn ateb Josua, “Cod ar dy draed! Pam wyt ti’n gorwedd ar dy wyneb ar lawr fel yna? Mae Israel wedi pechu. Maen nhw wedi torri amodau’r ymrwymiad wnes i gyda nhw! Maen nhw wedi cymryd pethau oedd piau fi – wedi dwyn, a dweud celwydd, a chuddio’r pethau gyda’u stwff nhw’u hunain. Dyna pam maen nhw wedi ffoi o flaen eu gelynion – am eu bod nhw i gael eu dinistrio! Dw i ddim yn mynd i fod gyda chi o hyn ymlaen, os na wnewch chi ddinistrio’r pethau hynny.
Josua 7:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Josua, “Cod; pam yr wyt ti wedi syrthio ar dy wyneb fel hyn? Pechodd Israel trwy dorri fy nghyfamod a orchmynnais iddynt; mwy na hynny, y maent wedi cymryd rhan o'r diofryd, ei ladrata trwy dwyll, a'i osod gyda'u pethau eu hunain. Ni all yr Israeliaid sefyll o flaen eu gelynion; byddant yn troi eu gwar o flaen eu gelynion, oherwydd aethant yn ddiofryd. Ni fyddaf gyda chwi mwyach oni ddilëwch y diofryd o'ch plith.
Josua 7:10-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb? Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt: cymerasant hefyd o’r diofryd-beth, lladratasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun. Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymunbeth: ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddifethwch yr ysgymunbeth o’ch mysg.