Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 7:1-26

Josua 7:1-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond roedd pobl Israel wedi bod yn anufudd, a chymryd rhai pethau oedd i fod i gael eu cadw i’r ARGLWYDD. Roedd dyn o’r enw Achan wedi cymryd rhai o’r pethau oedd piau’r ARGLWYDD. (Roedd Achan yn fab i Carmi, ac yn ŵyr i Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.) Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda phobl Israel. Dyma Josua’n anfon dynion o Jericho i ysbïo ar Ai (sydd i’r dwyrain o Bethel, wrth ymyl Beth-afen). Pan ddaeth y dynion yn ôl, dyma nhw’n dweud wrth Josua, “Paid anfon pawb i ymladd yn erbyn Ai. Bydd rhyw ddwy neu dair mil o ddynion yn hen ddigon. Does dim pwynt trafferthu i anfon y fyddin i gyd. Tref fach ydy Ai.” Felly dyma ryw dair mil o ddynion arfog yn mynd, ond dynion Ai wnaeth ennill y frwydr, ac roedd rhaid i ddynion Israel ffoi. Aeth dynion Ai ar eu holau yr holl ffordd i lawr o giatiau’r dref i’r chwareli. Cafodd tua tri deg chwech ohonyn nhw eu lladd ar y llethrau. Canlyniad hynny oedd i bobl Israel golli pob hyder. Dyma Josua yn rhwygo’i ddillad, a gorwedd ar ei wyneb ar lawr o flaen Arch yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedd arweinwyr Israel yno gydag e, yn taflu pridd ar eu pennau. Gweddïodd Josua, “O na! Feistr, ARGLWYDD! Pam wyt ti wedi dod â’r bobl yma ar draws afon Iorddonen? Ai er mwyn i’r Amoriaid ein dinistrio ni? Pam wnaethon ni ddim bodloni ar aros yr ochr arall! Meistr, beth alla i ei ddweud, ar ôl i Israel orfod ffoi o flaen eu gelynion? Pan fydd y Canaaneaid a phawb arall sy’n byw yn y wlad yn clywed beth sydd wedi digwydd, byddan nhw’n troi yn ein herbyn ni a’n dileu ni oddi ar wyneb y ddaear. Be wnei di wedyn i gadw dy enw da?” A dyma’r ARGLWYDD yn ateb Josua, “Cod ar dy draed! Pam wyt ti’n gorwedd ar dy wyneb ar lawr fel yna? Mae Israel wedi pechu. Maen nhw wedi torri amodau’r ymrwymiad wnes i gyda nhw! Maen nhw wedi cymryd pethau oedd piau fi – wedi dwyn, a dweud celwydd, a chuddio’r pethau gyda’u stwff nhw’u hunain. Dyna pam maen nhw wedi ffoi o flaen eu gelynion – am eu bod nhw i gael eu dinistrio! Dw i ddim yn mynd i fod gyda chi o hyn ymlaen, os na wnewch chi ddinistrio’r pethau hynny. Dos, a dwed wrth y bobl am fynd drwy’r ddefod o buro’u hunain erbyn yfory. Mae’r ARGLWYDD, Duw Israel yn dweud, ‘Israel, mae yna bethau gynnoch chi oedd piau fi ac i fod i gael eu dinistrio. Fyddwch chi ddim yn ennill y frwydr yn erbyn eich gelynion nes byddwch chi wedi cael gwared â’r pethau hynny. Bore fory, dw i eisiau i chi ddod ymlaen bob yn llwyth. Bydda i’n pigo’r llwyth sy’n euog, a byddan nhw’n dod ymlaen bob yn glan. Yna’r clan bob yn deulu, ac aelodau’r teulu bob yn un. Bydd y person sy’n cael ei ddal gyda’r pethau oedd i fod i gael eu cadw i mi, yn cael ei losgi, a’i deulu gydag e. Mae e wedi torri amodau’r ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD – peth gwarthus i’w wneud yn Israel!’” Felly dyma Josua’n codi’n gynnar y bore wedyn, a gwneud i bobl Israel ddod ymlaen bob yn llwyth. Llwyth Jwda gafodd ei ddewis. Yna dyma fe’n gwneud i glaniau Jwda ddod ymlaen yn eu tro. Clan Serach gafodd ei ddewis. Yna cafodd teulu Sabdi ei ddewis o glan Serach. A phan ddaeth teulu Sabdi ymlaen bob yn un, dyma Achan yn cael ei ddal (sef Achan fab Carmi, ŵyr Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda). Dyma Josua yn dweud wrth Achan, “Rho glod i’r ARGLWYDD, Duw Israel, a chyffesu iddo. Dwed beth wnest ti. Paid cuddio dim byd.” A dyma Achan yn ateb, “Mae’n wir. Dw i wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma ddigwyddodd: Gwnes i weld clogyn hardd o Babilonia, dau gant o ddarnau arian, a bar o aur yn pwyso dros hanner cilogram. Rôn i eisiau nhw, felly dyma fi’n eu cymryd nhw. Maen nhw wedi’u claddu yn y ddaear o dan fy mhabell, gyda’r arian yn y gwaelod.” Felly dyma Josua yn anfon dynion i edrych yn y babell. A wir, dyna ble roedd y cwbl wedi’i guddio, gyda’r arian o dan bopeth arall. Dyma nhw’n cymryd y cwbl o’r babell, a dod ag e at Josua a phobl Israel, a’i osod ar lawr o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma Josua a phobl Israel yn mynd ag Achan fab Serach, gyda’i berthnasau a’i eiddo i gyd, i Ddyffryn Achor. (Aethon nhw â’r arian, y clogyn, y bar aur, ei feibion a’i ferched, ei anifeiliaid, ei babell, a phopeth arall oedd piau fe gyda nhw.) Meddai Josua yno, “Pam wnest ti ddod â’r drychineb yma arnon ni? Heddiw mae’r ARGLWYDD yn mynd i ddod â thrychineb arnat ti!” A dyma bobl Israel yn taflu cerrig at Achan nes roedd e wedi marw. A dyma nhw’n gwneud yr un peth i’w deulu, ac yna’n llosgi’r cyrff. Yna codon nhw bentwr mawr o gerrig drosto – sy’n dal yna hyd heddiw. A dyma’r ARGLWYDD yn stopio bod yn ddig hefo nhw wedyn. A dyna pam mae’r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Achor ers hynny (sef ‘Dyffryn y Drychineb’).

Josua 7:1-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Bu'r Israeliaid yn anffyddlon ynglŷn â'r diofryd; cymerwyd rhan ohono gan Achan fab Carmi, fab Sabdi, fab Sera o lwyth Jwda, a digiodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid. Anfonodd Josua ddynion o Jericho i Ai ger Beth-afen, i'r dwyrain o Fethel. Dywedodd wrthynt, “Ewch i fyny ac ysbïwch y wlad.” Aeth y dynion i fyny ac ysbïo Ai. Yna daethant yn ôl at Josua a dweud wrtho, “Peidied y fyddin gyfan â mynd i fyny; os â dwy neu dair mil o ddynion i fyny, fe orchfygant Ai. Paid â llusgo'r holl fyddin i fyny yno, oherwydd ychydig ydynt.” Aeth tua thair mil o'r fyddin i fyny yno, ond ffoesant o flaen dynion Ai. Lladdodd dynion Ai ryw dri dwsin ohonynt trwy eu hymlid o'r porth hyd at Sebarim, a'u lladd ar y llechwedd. Suddodd calon y bobl a throi megis dŵr. Rhwygodd Josua ei fantell, a syrthiodd ar ei wyneb ar lawr gerbron arch yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a'r un modd y gwnaeth henuriaid Israel, gan luchio llwch ar eu pennau. Dywedodd Josua, “Och! F'Arglwydd DDUW, pam y trafferthaist i ddod â'r bobl hyn dros yr Iorddonen, i'n rhoi yn llaw'r Amoriaid i'n difetha? Gresyn na fuasem wedi bodloni aros yr ochr draw i'r Iorddonen. O Arglwydd, beth a ddywedaf, wedi i'r Israeliaid droi eu cefn o flaen eu gelynion? Pan glyw y Canaaneaid a holl drigolion y wlad, fe'n hamgylchynant, a dileu ein henw o'r wlad; a beth a wnei di am d'enw mawr?” Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Josua, “Cod; pam yr wyt ti wedi syrthio ar dy wyneb fel hyn? Pechodd Israel trwy dorri fy nghyfamod a orchmynnais iddynt; mwy na hynny, y maent wedi cymryd rhan o'r diofryd, ei ladrata trwy dwyll, a'i osod gyda'u pethau eu hunain. Ni all yr Israeliaid sefyll o flaen eu gelynion; byddant yn troi eu gwar o flaen eu gelynion, oherwydd aethant yn ddiofryd. Ni fyddaf gyda chwi mwyach oni ddilëwch y diofryd o'ch plith. Cod, cysegra'r bobl a dywed wrthynt, ‘Ymgysegrwch erbyn yfory, oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: “Y mae diofryd yn eich plith, Israel; ni fedrwch sefyll o flaen eich gelynion nes ichwi symud y diofryd o'ch plith.” Yfory rhaid ichwi ddod gerbron yr ARGLWYDD fesul llwyth; yna daw'r llwyth a ddelir ganddo fesul tylwyth, y tylwyth fesul teulu, a'r teulu fesul un. A phwy bynnag a ddelir gyda'r diofryd, fe'i llosgir ef a'r cwbl a berthyn iddo, am iddo droseddu yn erbyn cyfamod yr ARGLWYDD a gwneud tro ysgeler yn Israel.’ ” Cododd Josua yn fore drannoeth, a dod â'r Israeliaid gerbron fesul llwyth. Daliwyd llwyth Jwda. Daeth â thylwythau Jwda gerbron, a daliwyd tylwyth y Sarhiaid; yna daeth â thylwyth y Sarhiaid fesul teulu, a daliwyd Sabdi. Pan ddaeth â'i deulu ef gerbron fesul un, daliwyd Achan fab Carmi, fab Sabdi, fab Sera o lwyth Jwda. Dywedodd Josua wrth Achan, “Fy mab, rho'n awr glod a gogoniant i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Dywed imi'n awr beth a wnaethost; paid â'i gelu oddi wrthyf.” Atebodd Achan, “Yn wir yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw Israel; dyma a wneuthum: ymysg yr ysbail gwelais fantell hardd o Sinar, dau can sicl o arian, a llafn aur yn pwyso hanner can sicl. Cododd blys arnaf amdanynt, ac fe'u cymerais. Y maent wedi eu cuddio yn y ddaear i mewn yn fy mhabell, gyda'r arian oddi tanodd.” Anfonodd Josua negeswyr; ac wedi iddynt redeg at y babell, fe'u gwelsant wedi eu cuddio, a'r arian oddi tanodd. Cymerasant hwy allan o'r babell a dod â hwy at Josua a'r holl Israeliaid, a'u gosod gerbron yr ARGLWYDD. Yna bu i Josua, ac Israel gyfan gydag ef, gymryd Achan fab Sera, a'r arian a'r fantell a'r llafn aur, a'i feibion a'i ferched, a'i ychen a'i asynnod a'i ddefaid a'i babell, y cwbl a feddai, ac aethant ag ef i fyny i ddyffryn Achor. Dywedodd Josua, “Am i ti ein cythryblu ni, bydd yr ARGLWYDD yn dy gythryblu dithau y dydd hwn.” A llabyddiodd Israel gyfan ef â cherrig, a llosgi'r lleill â thân ar ôl eu llabyddio. Codasant drosto garnedd fawr o gerrig sydd yno hyd heddiw; yna peidiodd digofaint yr ARGLWYDD. Dyna pam y gelwir y lle hwnnw'n ddyffryn Achor hyd y dydd hwn.

Josua 7:1-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd-beth: canys Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda, a gymerodd o’r diofryd-beth: ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn meibion Israel. A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du’r dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Ewch i fyny, ac edrychwch y wlad. A’r gwŷr a aethant i fyny, ac a edrychasant ansawdd Ai. A hwy a ddychwelasant at Josua, ac a ddywedasant wrtho. Nac eled yr holl bobl i fyny; ond ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fyny, ac a drawant Ai: na phoenwch yr holl bobl yno; canys ychydig ydynt hwy. Felly fe a aeth o’r bobl i fyny yno ynghylch tair mil o wŷr: a hwy a ffoesant o flaen gwŷr Ai. A gwŷr Ai a drawsant ynghylch un gŵr ar bymtheg ar hugain ohonynt; ac a’u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a thrawsant hwynt yn y goriwaered: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr. A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau. A dywedodd Josua, Ah, ah, O ARGLWYDD IÔR, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i’n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha? O na buasem fodlon, ac na thrigasem tu hwnt i’r Iorddonen! O ARGLWYDD, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei war o flaen ei elynion! Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a’n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i’th enw mawr? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb? Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt: cymerasant hefyd o’r diofryd-beth, lladratasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun. Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymunbeth: ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddifethwch yr ysgymunbeth o’ch mysg. Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn yfory: canys fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Diofryd-beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y diofryd-beth o’ch mysg. Am hynny nesewch y bore wrth eich llwythau: a’r llwyth a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn deulu; a’r teulu a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn dŷ; a’r tŷ a ddalio yr ARGLWYDD, nesaed bob yn ŵr. A’r hwn a ddelir a’r diofryd-beth ganddo, a losgir â thân, efe ac oll sydd ganddo: oherwydd iddo droseddu cyfamod yr ARGLWYDD, ac oherwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel. Felly Josua a gyfododd yn fore, ac a ddug Israel wrth eu llwythau: a llwyth Jwda a ddaliwyd. Ac efe a ddynesodd deulu Jwda; a daliwyd teulu y Sarhiaid: ac efe a ddynesodd deulu y Sarhiaid bob yn ŵr; a daliwyd Sabdi: Ac efe a ddynesodd ei dyaid ef bob yn ŵr; a daliwyd Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda. A Josua a ddywedodd wrth Achan, Fy mab, atolwg, dyro ogoniant i ARGLWYDD DDUW Israel, a chyffesa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost: na chela oddi wrthyf. Ac Achan a atebodd Josua, ac a ddywedodd, Yn wir myfi a bechais yn erbyn ARGLWYDD DDUW Israel; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum. Pan welais ymysg yr ysbail fantell Fabilonig deg, a dau can sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwenychais hwynt, ac a’u cymerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear yng nghanol fy mhabell, a’r arian danynt. Yna Josua a anfonodd genhadau; a hwy a redasant i’r babell: ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef, a’r arian danynt. Am hynny hwy a’u cymerasant o ganol y babell, ac a’u dygasant at Josua, ac at holl feibion Israel; ac a’u gosodasant hwy o flaen yr ARGLWYDD. A Josua a gymerth Achan mab Sera, a’r arian, a’r fantell, a’r llafn aur, ei feibion hefyd, a’i ferched, a’i wartheg, a’i asynnod, ei ddefaid hefyd, a’i babell, a’r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gydag ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor. A Josua a ddywedodd, Am i ti ein blino ni, yr ARGLWYDD a’th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a’i llabyddiasant ef â meini, ac a’u llosgasant hwy â thân, wedi eu llabyddio â meini. A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr ARGLWYDD oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.