Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 7:1-13

Josua 7:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond roedd pobl Israel wedi bod yn anufudd, a chymryd rhai pethau oedd i fod i gael eu cadw i’r ARGLWYDD. Roedd dyn o’r enw Achan wedi cymryd rhai o’r pethau oedd piau’r ARGLWYDD. (Roedd Achan yn fab i Carmi, ac yn ŵyr i Sabdi fab Serach, o lwyth Jwda.) Ac roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda phobl Israel. Dyma Josua’n anfon dynion o Jericho i ysbïo ar Ai (sydd i’r dwyrain o Bethel, wrth ymyl Beth-afen). Pan ddaeth y dynion yn ôl, dyma nhw’n dweud wrth Josua, “Paid anfon pawb i ymladd yn erbyn Ai. Bydd rhyw ddwy neu dair mil o ddynion yn hen ddigon. Does dim pwynt trafferthu i anfon y fyddin i gyd. Tref fach ydy Ai.” Felly dyma ryw dair mil o ddynion arfog yn mynd, ond dynion Ai wnaeth ennill y frwydr, ac roedd rhaid i ddynion Israel ffoi. Aeth dynion Ai ar eu holau yr holl ffordd i lawr o giatiau’r dref i’r chwareli. Cafodd tua tri deg chwech ohonyn nhw eu lladd ar y llethrau. Canlyniad hynny oedd i bobl Israel golli pob hyder. Dyma Josua yn rhwygo’i ddillad, a gorwedd ar ei wyneb ar lawr o flaen Arch yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedd arweinwyr Israel yno gydag e, yn taflu pridd ar eu pennau. Gweddïodd Josua, “O na! Feistr, ARGLWYDD! Pam wyt ti wedi dod â’r bobl yma ar draws afon Iorddonen? Ai er mwyn i’r Amoriaid ein dinistrio ni? Pam wnaethon ni ddim bodloni ar aros yr ochr arall! Meistr, beth alla i ei ddweud, ar ôl i Israel orfod ffoi o flaen eu gelynion? Pan fydd y Canaaneaid a phawb arall sy’n byw yn y wlad yn clywed beth sydd wedi digwydd, byddan nhw’n troi yn ein herbyn ni a’n dileu ni oddi ar wyneb y ddaear. Be wnei di wedyn i gadw dy enw da?” A dyma’r ARGLWYDD yn ateb Josua, “Cod ar dy draed! Pam wyt ti’n gorwedd ar dy wyneb ar lawr fel yna? Mae Israel wedi pechu. Maen nhw wedi torri amodau’r ymrwymiad wnes i gyda nhw! Maen nhw wedi cymryd pethau oedd piau fi – wedi dwyn, a dweud celwydd, a chuddio’r pethau gyda’u stwff nhw’u hunain. Dyna pam maen nhw wedi ffoi o flaen eu gelynion – am eu bod nhw i gael eu dinistrio! Dw i ddim yn mynd i fod gyda chi o hyn ymlaen, os na wnewch chi ddinistrio’r pethau hynny. Dos, a dwed wrth y bobl am fynd drwy’r ddefod o buro’u hunain erbyn yfory. Mae’r ARGLWYDD, Duw Israel yn dweud, ‘Israel, mae yna bethau gynnoch chi oedd piau fi ac i fod i gael eu dinistrio. Fyddwch chi ddim yn ennill y frwydr yn erbyn eich gelynion nes byddwch chi wedi cael gwared â’r pethau hynny.

Josua 7:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Bu'r Israeliaid yn anffyddlon ynglŷn â'r diofryd; cymerwyd rhan ohono gan Achan fab Carmi, fab Sabdi, fab Sera o lwyth Jwda, a digiodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid. Anfonodd Josua ddynion o Jericho i Ai ger Beth-afen, i'r dwyrain o Fethel. Dywedodd wrthynt, “Ewch i fyny ac ysbïwch y wlad.” Aeth y dynion i fyny ac ysbïo Ai. Yna daethant yn ôl at Josua a dweud wrtho, “Peidied y fyddin gyfan â mynd i fyny; os â dwy neu dair mil o ddynion i fyny, fe orchfygant Ai. Paid â llusgo'r holl fyddin i fyny yno, oherwydd ychydig ydynt.” Aeth tua thair mil o'r fyddin i fyny yno, ond ffoesant o flaen dynion Ai. Lladdodd dynion Ai ryw dri dwsin ohonynt trwy eu hymlid o'r porth hyd at Sebarim, a'u lladd ar y llechwedd. Suddodd calon y bobl a throi megis dŵr. Rhwygodd Josua ei fantell, a syrthiodd ar ei wyneb ar lawr gerbron arch yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a'r un modd y gwnaeth henuriaid Israel, gan luchio llwch ar eu pennau. Dywedodd Josua, “Och! F'Arglwydd DDUW, pam y trafferthaist i ddod â'r bobl hyn dros yr Iorddonen, i'n rhoi yn llaw'r Amoriaid i'n difetha? Gresyn na fuasem wedi bodloni aros yr ochr draw i'r Iorddonen. O Arglwydd, beth a ddywedaf, wedi i'r Israeliaid droi eu cefn o flaen eu gelynion? Pan glyw y Canaaneaid a holl drigolion y wlad, fe'n hamgylchynant, a dileu ein henw o'r wlad; a beth a wnei di am d'enw mawr?” Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Josua, “Cod; pam yr wyt ti wedi syrthio ar dy wyneb fel hyn? Pechodd Israel trwy dorri fy nghyfamod a orchmynnais iddynt; mwy na hynny, y maent wedi cymryd rhan o'r diofryd, ei ladrata trwy dwyll, a'i osod gyda'u pethau eu hunain. Ni all yr Israeliaid sefyll o flaen eu gelynion; byddant yn troi eu gwar o flaen eu gelynion, oherwydd aethant yn ddiofryd. Ni fyddaf gyda chwi mwyach oni ddilëwch y diofryd o'ch plith. Cod, cysegra'r bobl a dywed wrthynt, ‘Ymgysegrwch erbyn yfory, oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: “Y mae diofryd yn eich plith, Israel; ni fedrwch sefyll o flaen eich gelynion nes ichwi symud y diofryd o'ch plith.”

Josua 7:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd-beth: canys Achan mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda, a gymerodd o’r diofryd-beth: ac enynnodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn meibion Israel. A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du’r dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Ewch i fyny, ac edrychwch y wlad. A’r gwŷr a aethant i fyny, ac a edrychasant ansawdd Ai. A hwy a ddychwelasant at Josua, ac a ddywedasant wrtho. Nac eled yr holl bobl i fyny; ond ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fyny, ac a drawant Ai: na phoenwch yr holl bobl yno; canys ychydig ydynt hwy. Felly fe a aeth o’r bobl i fyny yno ynghylch tair mil o wŷr: a hwy a ffoesant o flaen gwŷr Ai. A gwŷr Ai a drawsant ynghylch un gŵr ar bymtheg ar hugain ohonynt; ac a’u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a thrawsant hwynt yn y goriwaered: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr. A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau. A dywedodd Josua, Ah, ah, O ARGLWYDD IÔR, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i’n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha? O na buasem fodlon, ac na thrigasem tu hwnt i’r Iorddonen! O ARGLWYDD, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei war o flaen ei elynion! Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a’n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i’th enw mawr? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb? Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt: cymerasant hefyd o’r diofryd-beth, lladratasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun. Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymunbeth: ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddifethwch yr ysgymunbeth o’ch mysg. Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn yfory: canys fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Diofryd-beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y diofryd-beth o’ch mysg.