Josua 6:8-9
Josua 6:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl i Josua ddweud hyn, dyma’r saith offeiriad yn dechrau symud, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd wrth fynd. A dyma Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dilyn. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a’r tu ôl i’r offeiriaid oedd yn chwythu’r cyrn hwrdd.
Josua 6:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac wedi i Josua lefaru wrth y fyddin, cerddodd y saith offeiriad oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd o flaen yr ARGLWYDD, gan seinio'r utgyrn, ac arch cyfamod yr ARGLWYDD yn eu dilyn. Yr oedd y gwŷr arfog yn mynd o flaen yr offeiriaid oedd yn seinio'r utgyrn, a'r ôl-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd.
Josua 6:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr ARGLWYDD, ac a leisiasant â’r utgyrn: ac arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd yn myned ar eu hôl hwynt. A’r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â’r utgyrn; a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn.