Josua 6:3-5
Josua 6:3-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i eisiau i dy fyddin di fartsio o gwmpas Jericho un waith bob dydd am chwe diwrnod. Mae saith offeiriad i gerdded o flaen yr Arch, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid martsio o gwmpas y ddinas saith gwaith, gyda’r offeiriaid yn chwythu’r cyrn hwrdd. Wedyn pan fydd yr offeiriaid yn seinio un nodyn hir ar y cyrn hwrdd, rhaid i’r fyddin i gyd weiddi’n uchel. Bydd waliau’r ddinas yn syrthio, a bydd y fyddin yn gallu ymosod, a’r dynion i gyd yn gallu mynd yn syth i mewn i’r ddinas.”
Josua 6:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ewch chwi, yr holl filwyr, o amgylch y ddinas un waith, a gwneud hynny am chwe diwrnod. A bydded i saith offeiriad gario saith utgorn o gorn hwrdd o flaen yr arch. Yna ar y seithfed dydd amgylchwch y ddinas seithwaith, a'r offeiriaid yn seinio'r utgyrn. Pan ddaw caniad hir ar y corn hwrdd, a chwithau'n clywed sain yr utgorn, bloeddied y fyddin gyfan â bloedd uchel, ac fe syrth mur y ddinas i lawr; yna aed pob un o'r fyddin i fyny ar ei gyfer.”
Josua 6:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chwi a amgylchwch y ddinas, chwi ryfelwyr oll, gan fyned o amgylch y ddinas un waith: gwnewch felly chwe diwrnod. A dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â’r utgyrn. A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer.