Josua 6:14-15
Josua 6:14-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma nhw’n martsio o gwmpas y ddinas unwaith eto, ar yr ail ddiwrnod, ac yna’n mynd yn ôl i’r gwersyll. A dyma nhw’n gwneud yr un peth am chwe diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod dyma nhw’n codi gyda’r wawr, i fartsio o gwmpas y ddinas fel o’r blaen – ond y tro yma dyma nhw’n mynd o’i chwmpas hi saith gwaith.
Josua 6:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl amgylchu'r ddinas un waith ar yr ail ddiwrnod, aethant yn eu hôl i'r gwersyll. Gwnaethant felly am chwe diwrnod. Ar y seithfed dydd, codasant gyda'r wawr ac amgylchu'r ddinas yr un modd saith o weithiau; y diwrnod hwnnw'n unig yr amgylchwyd y ddinas seithwaith.
Josua 6:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i’r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod. Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith.