Josua 6:1-16
Josua 6:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd giatiau Jericho wedi’u cau’n dynn am fod ganddyn nhw ofn pobl Israel. Doedd neb yn cael mynd i mewn nac allan o’r ddinas. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dw i’n mynd i roi dinas Jericho i ti. Byddi di’n concro ei brenin a’i byddin! Dw i eisiau i dy fyddin di fartsio o gwmpas Jericho un waith bob dydd am chwe diwrnod. Mae saith offeiriad i gerdded o flaen yr Arch, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd. Yna ar y seithfed diwrnod rhaid martsio o gwmpas y ddinas saith gwaith, gyda’r offeiriaid yn chwythu’r cyrn hwrdd. Wedyn pan fydd yr offeiriaid yn seinio un nodyn hir ar y cyrn hwrdd, rhaid i’r fyddin i gyd weiddi’n uchel. Bydd waliau’r ddinas yn syrthio, a bydd y fyddin yn gallu ymosod, a’r dynion i gyd yn gallu mynd yn syth i mewn i’r ddinas.” Felly dyma Josua fab Nwn yn galw’r offeiriaid ato a dweud wrthyn nhw, “Codwch Arch yr Ymrwymiad, a rhoi saith offeiriad i fynd o’i blaen, pob un ohonyn nhw yn cario corn hwrdd.” A dyma fe’n dweud wrth y milwyr, “Ymlaen! Martsiwch o gwmpas y ddinas, gyda grŵp o ddynion arfog yn mynd o flaen Arch yr ARGLWYDD.” Ar ôl i Josua ddweud hyn, dyma’r saith offeiriad yn dechrau symud, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd wrth fynd. A dyma Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD yn dilyn. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a’r tu ôl i’r offeiriaid oedd yn chwythu’r cyrn hwrdd. Ond roedd Josua wedi dweud wrth y milwyr, “Peidiwch gweiddi o gwbl. Cadwch yn hollol dawel nes i mi ddweud wrthoch chi am weiddi – wedyn cewch weiddi nerth eich pen!” Felly dyma Josua yn gwneud iddyn nhw fynd ag Arch yr ARGLWYDD o gwmpas y ddinas un waith, cyn mynd yn ôl i’r gwersyll ac aros yno dros nos. Yn gynnar y bore wedyn dyma Josua yn codi, a chael yr offeiriaid i fynd allan eto, yn cario Arch yr Ymrwymiad. A dyma’r saith offeiriad yn mynd allan o flaen Arch yr ARGLWYDD, pob un yn chwythu ei gorn hwrdd. Roedd gwarchodlu o filwyr yn martsio o flaen a’r tu ôl i’r offeiriaid oedd yn chwythu’r cyrn hwrdd. Dyma nhw’n martsio o gwmpas y ddinas unwaith eto, ar yr ail ddiwrnod, ac yna’n mynd yn ôl i’r gwersyll. A dyma nhw’n gwneud yr un peth am chwe diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod dyma nhw’n codi gyda’r wawr, i fartsio o gwmpas y ddinas fel o’r blaen – ond y tro yma dyma nhw’n mynd o’i chwmpas hi saith gwaith. Y seithfed gwaith rownd, dyma’r offeiriaid yn chwythu un nodyn hir, a dyma Josua yn dweud wrth y bobl, “Gwaeddwch! Mae’r ARGLWYDD wedi rhoi’r ddinas i chi!
Josua 6:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd Jericho wedi ei chloi'n dynn rhag yr Israeliaid, heb neb yn mynd i mewn nac allan. Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Josua, “Edrych, yr wyf wedi rhoi Jericho a'i brenin a'i rhyfelwyr grymus yn dy law. Ewch chwi, yr holl filwyr, o amgylch y ddinas un waith, a gwneud hynny am chwe diwrnod. A bydded i saith offeiriad gario saith utgorn o gorn hwrdd o flaen yr arch. Yna ar y seithfed dydd amgylchwch y ddinas seithwaith, a'r offeiriaid yn seinio'r utgyrn. Pan ddaw caniad hir ar y corn hwrdd, a chwithau'n clywed sain yr utgorn, bloeddied y fyddin gyfan â bloedd uchel, ac fe syrth mur y ddinas i lawr; yna aed pob un o'r fyddin i fyny ar ei gyfer.” Galwodd Josua fab Nun ar yr offeiriaid a dweud wrthynt, “Codwch arch y cyfamod, a bydded i saith offeiriad gario saith utgorn o gorn hwrdd o flaen arch yr ARGLWYDD.” Dywedodd wrth y fyddin, “Ewch ymlaen ac amgylchwch y ddinas, gyda'r rhai arfog yn mynd o flaen arch yr ARGLWYDD.” Ac wedi i Josua lefaru wrth y fyddin, cerddodd y saith offeiriad oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd o flaen yr ARGLWYDD, gan seinio'r utgyrn, ac arch cyfamod yr ARGLWYDD yn eu dilyn. Yr oedd y gwŷr arfog yn mynd o flaen yr offeiriaid oedd yn seinio'r utgyrn, a'r ôl-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd. Yr oedd Josua wedi gorchymyn i'r fyddin, “Peidiwch â gweiddi na chodi eich llais nac yngan yr un gair tan y diwrnod y dywedaf wrthych am floeddio; yna bloeddiwch.” Aethant ag arch yr ARGLWYDD o amgylch y ddinas un waith, ac yna dychwelyd i'r gwersyll i fwrw'r nos. Cododd Josua'n fore, a chymerodd yr offeiriaid arch yr ARGLWYDD; yna aeth y saith offeiriad, a oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd, o flaen arch yr ARGLWYDD gan seinio'r utgyrn, gyda'r gwŷr arfog o'u blaen a'r ôl-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd. Ar ôl amgylchu'r ddinas un waith ar yr ail ddiwrnod, aethant yn eu hôl i'r gwersyll. Gwnaethant felly am chwe diwrnod. Ar y seithfed dydd, codasant gyda'r wawr ac amgylchu'r ddinas yr un modd saith o weithiau; y diwrnod hwnnw'n unig yr amgylchwyd y ddinas seithwaith. Yna ar y seithfed tro, pan seiniodd yr offeiriaid yr utgyrn, dywedodd Josua wrth y fyddin, “Bloeddiwch, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r ddinas i chwi.
Josua 6:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Jericho oedd gaeëdig a gwarchaeëdig, oherwydd meibion Israel: nid oedd neb yn myned allan, nac yn dyfod i mewn. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Gwêl, rhoddais yn dy law di Jericho a’i brenin, gwŷr grymus o nerth. A chwi a amgylchwch y ddinas, chwi ryfelwyr oll, gan fyned o amgylch y ddinas un waith: gwnewch felly chwe diwrnod. A dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â’r utgyrn. A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer. A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfamod, a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr ARGLWYDD. Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a’r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr ARGLWYDD. A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr ARGLWYDD, ac a leisiasant â’r utgyrn: ac arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd yn myned ar eu hôl hwynt. A’r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â’r utgyrn; a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn. A Josua a orchmynasai i’r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o’ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch. Felly arch yr ARGLWYDD a amgylchodd y ddinas, gan fyned o’i hamgylch un waith: a daethant i’r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll. A Josua a gyfododd yn fore; a’r offeiriaid a ddygasant arch yr ARGLWYDD. A’r saith offeiriad, yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr ARGLWYDD, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â’r utgyrn: a’r rhai arfog oedd yn myned o’u blaen hwynt: a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr ARGLWYDD, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r utgyrn. Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i’r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod. Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith. A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr ARGLWYDD y ddinas i chwi.