Josua 5:4-6
Josua 5:4-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y rheswm pam roedd rhaid i Josua wneud hyn oedd fod y dynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaeth pobl Israel allan o wlad yr Aifft i gyd wedi marw yn yr anialwch. Roedd y dynion hynny wedi’u henwaedu, ond doedd y rhai gafodd eu geni yn ystod y daith drwy’r anialwch ddim wedi bod drwy’r ddefod o gael eu henwaedu. Roedd pobl Israel wedi bod yn crwydro yn yr anialwch am bedwar deg mlynedd, nes bod yr holl ddynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaethon nhw allan o’r Aifft i gyd wedi marw – y dynion hynny oedd wedi bod yn anufudd i’r ARGLWYDD. Roedd yr ARGLWYDD wedi tyngu llw na fyddai byth yn gadael iddyn nhw weld y wlad roedd wedi addo ei rhoi iddyn nhw – y wlad ffrwythlon lle roedd llaeth a mêl yn llifo.
Josua 5:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dyma pam yr enwaedodd Josua arnynt: yr oedd yr holl fyddin a ddaeth allan o'r Aifft, sef yr holl wrywod oedd yn dwyn arfau, wedi marw yn yr anialwch ar eu taith o'r Aifft. Yr oedd pawb o'r fyddin a ddaeth allan o'r Aifft wedi eu henwaedu, ond nid enwaedwyd ar neb a anwyd yn yr anialwch ar y daith o'r Aifft. Deugain mlynedd y bu'r Israeliaid yn crwydro'r anialwch, nes bod yr holl genhedlaeth o wŷr arfog a ddaeth allan o'r Aifft wedi marw am nad oeddent wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD; yr oedd yr ARGLWYDD wedi tyngu wrthynt na chaent hwy weld y wlad yr oedd ef wedi ei haddo i'w hynafiaid, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
Josua 5:4-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dyma’r achos a wnaeth i Josua enwaedu: Yr holl bobl, sef y gwrywiaid y rhai a ddaethent o’r Aifft, yr holl ryfelwyr, a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd, wedi eu dyfod allan o’r Aifft. Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan, oedd enwaededig; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch, ar y ffordd, wedi eu dyfod hwy allan o’r Aifft, nid enwaedasent arnynt. Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aifft, y rhai ni wrandawsent ar lef yr ARGLWYDD: y rhai y tyngasai yr ARGLWYDD wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr ARGLWYDD wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.