Josua 5:13-15
Josua 5:13-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd Josua wrth ymyl Jericho, gwelodd ddyn yn sefyll o’i flaen yn dal cleddyf yn ei law. Dyma Josua’n mynd ato ac yn gofyn iddo, “Wyt ti ar ein hochr ni, neu gyda’n gelynion ni?” A dyma fe’n ateb, “Pennaeth byddin yr ARGLWYDD ydw i. Dw i wedi cyrraedd.” Aeth Josua ar ei wyneb ar lawr o’i flaen, a dweud, “Dy was di ydw i. Beth mae fy meistr eisiau i mi ei wneud?” A dyma bennaeth byddin yr ARGLWYDD yn ei ateb, “Tyn dy sandalau; ti’n sefyll ar dir cysegredig!” Felly dyma Josua’n gwneud hynny.
Josua 5:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Tra oedd Josua yn ymyl Jericho, cododd ei lygaid a gweld dyn yn sefyll o'i flaen â'i gleddyf noeth yn ei law. Aeth Josua ato a gofyn iddo, “Ai gyda ni, ynteu gyda'n gwrthwynebwyr yr wyt ti?” Dywedodd yntau, “Nage; ond deuthum yn awr fel pennaeth llu'r ARGLWYDD.” Syrthiodd Josua i'r llawr o'i flaen a moesymgrymu, a gofyn iddo, “Beth sydd gan f'arglwydd i'w ddweud wrth ei was?” Atebodd pennaeth llu'r ARGLWYDD, “Tyn dy sandalau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r lle yr wyt yn sefyll arno yn gysegredig.” Gwnaeth Josua felly.
Josua 5:13-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef, â’i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyda ni yr ydwyt ti, ai gyda’n gwrthwynebwyr? Dywedodd yntau, Nage; eithr yn dywysog llu yr ARGLWYDD yn awr y deuthum. A Josua a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a addolodd; ac a ddywedodd wrtho ef, Beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei was? A thywysog llu yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Datod dy esgidiau oddi am dy draed: canys y lle yr wyt ti yn sefyll arno, sydd sanctaidd. A Josua a wnaeth felly.