Josua 5:11-12
Josua 5:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A’r diwrnod wedyn dyma nhw’n bwyta peth o gynnyrch y tir – bara heb furum ynddo, a grawn wedi’i rostio. Dyna’r diwrnod pan wnaeth y manna stopio dod. O’r diwrnod pan ddechreuon nhw fwyta cynnyrch y tir, gafodd pobl Israel ddim bwyta manna eto. O’r flwyddyn honno ymlaen roedden nhw’n bwyta cynnyrch gwlad Canaan.
Josua 5:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Trannoeth y Pasg, bwytasant o gynnyrch y wlad, a pharatoi bara croyw a chrasyd yn ystod y diwrnod hwnnw. Peidiodd y manna drannoeth wedi iddynt fwyta o gynnyrch y wlad, ac ni chafodd yr Israeliaid fanna wedyn, eithr bwyta cynnyrch gwlad Canaan y flwyddyn honno.
Josua 5:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a fwytasant o hen ŷd y wlad, drannoeth wedi’r Pasg, fara croyw, a chras ŷd, o fewn corff y dydd hwnnw. A’r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlad; a manna ni chafodd meibion Israel mwyach, eithr bwytasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno.