Josua 5:1-9
Josua 5:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd brenhinoedd yr Amoriaid a’r Canaaneaid wedi digalonni’n lân ac mewn panig llwyr. Roedden nhw wedi clywed fod yr ARGLWYDD wedi sychu afon Iorddonen er mwyn i bobl Israel allu croesi drosodd. (Brenhinoedd yr Amoriaid oedd yn teyrnasu i’r gorllewin o’r Iorddonen, a brenhinoedd y Canaaneaid ar hyd arfordir Môr y Canoldir.) Bryd hynny dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Gwna gyllyll o garreg fflint, a dywed wrth ddynion Israel am fynd drwy’r ddefod o gael eu henwaedu.” A dyma Josua yn gwneud hynny ar Gibeath-ha-araloth (sef ‘Bryn y blaengrwyn’). Y rheswm pam roedd rhaid i Josua wneud hyn oedd fod y dynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaeth pobl Israel allan o wlad yr Aifft i gyd wedi marw yn yr anialwch. Roedd y dynion hynny wedi’u henwaedu, ond doedd y rhai gafodd eu geni yn ystod y daith drwy’r anialwch ddim wedi bod drwy’r ddefod o gael eu henwaedu. Roedd pobl Israel wedi bod yn crwydro yn yr anialwch am bedwar deg mlynedd, nes bod yr holl ddynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaethon nhw allan o’r Aifft i gyd wedi marw – y dynion hynny oedd wedi bod yn anufudd i’r ARGLWYDD. Roedd yr ARGLWYDD wedi tyngu llw na fyddai byth yn gadael iddyn nhw weld y wlad roedd wedi addo ei rhoi iddyn nhw – y wlad ffrwythlon lle roedd llaeth a mêl yn llifo. A bellach, roedd eu meibion wedi cymryd eu lle. A nhw wnaeth Josua eu henwaedu, am fod eu tadau ddim wedi cadw’r ddefod yn ystod y cyfnod yn yr anialwch. Ar ôl i’r dynion i gyd gael eu henwaedu, dyma nhw’n aros yn y gwersyll nes roedden nhw wedi gwella. Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Heddiw dw i wedi symud y cywilydd eich bod wedi bod yn gaethion yn yr Aifft.” (Dyna pam mai Gilgal ydy’r enw ar y lle hyd heddiw.)
Josua 5:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywodd holl frenhinoedd yr Amoriaid ar yr ochr orllewinol i'r Iorddonen, a holl frenhinoedd y Canaaneaid yn ymyl y môr, fod yr ARGLWYDD wedi sychu dyfroedd yr Iorddonen o flaen yr Israeliaid, nes iddynt groesi, suddodd eu calon ac nid oedd hyder ganddynt i wynebu'r Israeliaid. Yr adeg honno dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Darpara iti gyllyll callestr ac ailddechrau enwaedu ar yr Israeliaid.” Paratôdd Josua gyllyll callestr ac enwaedodd ar yr Israeliaid yn Gibeath-araloth. A dyma pam yr enwaedodd Josua arnynt: yr oedd yr holl fyddin a ddaeth allan o'r Aifft, sef yr holl wrywod oedd yn dwyn arfau, wedi marw yn yr anialwch ar eu taith o'r Aifft. Yr oedd pawb o'r fyddin a ddaeth allan o'r Aifft wedi eu henwaedu, ond nid enwaedwyd ar neb a anwyd yn yr anialwch ar y daith o'r Aifft. Deugain mlynedd y bu'r Israeliaid yn crwydro'r anialwch, nes bod yr holl genhedlaeth o wŷr arfog a ddaeth allan o'r Aifft wedi marw am nad oeddent wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD; yr oedd yr ARGLWYDD wedi tyngu wrthynt na chaent hwy weld y wlad yr oedd ef wedi ei haddo i'w hynafiaid, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. Cododd eu meibion yn eu lle, ac arnynt hwy yr enwaedodd Josua; yr oeddent yn ddienwaededig am nad enwaedwyd arnynt ar y daith. Ar ôl eu henwaedu, arhosodd yr holl genedl lle'r oeddent yn y gwersyll nes eu hiacháu. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Heddiw yr wyf wedi treiglo gwarth yr Aifft oddi arnoch.” Felly gelwir y lle hwnnw'n Gilgal hyd y dydd hwn.
Josua 5:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o’r ARGLWYDD ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel. Y pryd hwnnw y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, Gwna i ti gyllyll llymion, ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith. A Josua a wnaeth iddo gyllyll llymion, ac a enwaedodd ar feibion Israel, ym mryn y blaengrwyn. A dyma’r achos a wnaeth i Josua enwaedu: Yr holl bobl, sef y gwrywiaid y rhai a ddaethent o’r Aifft, yr holl ryfelwyr, a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd, wedi eu dyfod allan o’r Aifft. Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan, oedd enwaededig; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch, ar y ffordd, wedi eu dyfod hwy allan o’r Aifft, nid enwaedasent arnynt. Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aifft, y rhai ni wrandawsent ar lef yr ARGLWYDD: y rhai y tyngasai yr ARGLWYDD wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr ARGLWYDD wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. A Josua a enwaedodd ar eu meibion hwy, y rhai a gododd yn eu lle hwynt: canys dienwaededig oeddynt hwy, am nad enwaedasid arnynt ar y ffordd. A phan ddarfu enwaedu ar yr holl bobl; yna yr arosasant yn eu hunlle, yn y gwersyll, nes eu hiacháu. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Heddiw y treiglais ymaith waradwydd yr Aifft oddi arnoch: am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal, hyd y dydd heddiw.