Josua 5:1-12
Josua 5:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd brenhinoedd yr Amoriaid a’r Canaaneaid wedi digalonni’n lân ac mewn panig llwyr. Roedden nhw wedi clywed fod yr ARGLWYDD wedi sychu afon Iorddonen er mwyn i bobl Israel allu croesi drosodd. (Brenhinoedd yr Amoriaid oedd yn teyrnasu i’r gorllewin o’r Iorddonen, a brenhinoedd y Canaaneaid ar hyd arfordir Môr y Canoldir.) Bryd hynny dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Gwna gyllyll o garreg fflint, a dywed wrth ddynion Israel am fynd drwy’r ddefod o gael eu henwaedu.” A dyma Josua yn gwneud hynny ar Gibeath-ha-araloth (sef ‘Bryn y blaengrwyn’). Y rheswm pam roedd rhaid i Josua wneud hyn oedd fod y dynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaeth pobl Israel allan o wlad yr Aifft i gyd wedi marw yn yr anialwch. Roedd y dynion hynny wedi’u henwaedu, ond doedd y rhai gafodd eu geni yn ystod y daith drwy’r anialwch ddim wedi bod drwy’r ddefod o gael eu henwaedu. Roedd pobl Israel wedi bod yn crwydro yn yr anialwch am bedwar deg mlynedd, nes bod yr holl ddynion oedd yn ddigon hen i ymladd pan ddaethon nhw allan o’r Aifft i gyd wedi marw – y dynion hynny oedd wedi bod yn anufudd i’r ARGLWYDD. Roedd yr ARGLWYDD wedi tyngu llw na fyddai byth yn gadael iddyn nhw weld y wlad roedd wedi addo ei rhoi iddyn nhw – y wlad ffrwythlon lle roedd llaeth a mêl yn llifo. A bellach, roedd eu meibion wedi cymryd eu lle. A nhw wnaeth Josua eu henwaedu, am fod eu tadau ddim wedi cadw’r ddefod yn ystod y cyfnod yn yr anialwch. Ar ôl i’r dynion i gyd gael eu henwaedu, dyma nhw’n aros yn y gwersyll nes roedden nhw wedi gwella. Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Heddiw dw i wedi symud y cywilydd eich bod wedi bod yn gaethion yn yr Aifft.” (Dyna pam mai Gilgal ydy’r enw ar y lle hyd heddiw.) Roedd pobl Israel yn gwersylla yn Gilgal ar wastatir Jericho. Pan oedd hi’n nosi ar ddechrau’r pedwerydd ar ddeg o’r mis cyntaf dyma nhw’n dathlu’r Pasg. A’r diwrnod wedyn dyma nhw’n bwyta peth o gynnyrch y tir – bara heb furum ynddo, a grawn wedi’i rostio. Dyna’r diwrnod pan wnaeth y manna stopio dod. O’r diwrnod pan ddechreuon nhw fwyta cynnyrch y tir, gafodd pobl Israel ddim bwyta manna eto. O’r flwyddyn honno ymlaen roedden nhw’n bwyta cynnyrch gwlad Canaan.
Josua 5:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywodd holl frenhinoedd yr Amoriaid ar yr ochr orllewinol i'r Iorddonen, a holl frenhinoedd y Canaaneaid yn ymyl y môr, fod yr ARGLWYDD wedi sychu dyfroedd yr Iorddonen o flaen yr Israeliaid, nes iddynt groesi, suddodd eu calon ac nid oedd hyder ganddynt i wynebu'r Israeliaid. Yr adeg honno dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Darpara iti gyllyll callestr ac ailddechrau enwaedu ar yr Israeliaid.” Paratôdd Josua gyllyll callestr ac enwaedodd ar yr Israeliaid yn Gibeath-araloth. A dyma pam yr enwaedodd Josua arnynt: yr oedd yr holl fyddin a ddaeth allan o'r Aifft, sef yr holl wrywod oedd yn dwyn arfau, wedi marw yn yr anialwch ar eu taith o'r Aifft. Yr oedd pawb o'r fyddin a ddaeth allan o'r Aifft wedi eu henwaedu, ond nid enwaedwyd ar neb a anwyd yn yr anialwch ar y daith o'r Aifft. Deugain mlynedd y bu'r Israeliaid yn crwydro'r anialwch, nes bod yr holl genhedlaeth o wŷr arfog a ddaeth allan o'r Aifft wedi marw am nad oeddent wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD; yr oedd yr ARGLWYDD wedi tyngu wrthynt na chaent hwy weld y wlad yr oedd ef wedi ei haddo i'w hynafiaid, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. Cododd eu meibion yn eu lle, ac arnynt hwy yr enwaedodd Josua; yr oeddent yn ddienwaededig am nad enwaedwyd arnynt ar y daith. Ar ôl eu henwaedu, arhosodd yr holl genedl lle'r oeddent yn y gwersyll nes eu hiacháu. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Heddiw yr wyf wedi treiglo gwarth yr Aifft oddi arnoch.” Felly gelwir y lle hwnnw'n Gilgal hyd y dydd hwn. Yr oedd yr Israeliaid yn gwersyllu yn Gilgal, a chyda'r hwyr ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, buont yn dathlu'r Pasg yn rhosydd Jericho. Trannoeth y Pasg, bwytasant o gynnyrch y wlad, a pharatoi bara croyw a chrasyd yn ystod y diwrnod hwnnw. Peidiodd y manna drannoeth wedi iddynt fwyta o gynnyrch y wlad, ac ni chafodd yr Israeliaid fanna wedyn, eithr bwyta cynnyrch gwlad Canaan y flwyddyn honno.
Josua 5:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o’r ARGLWYDD ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel. Y pryd hwnnw y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, Gwna i ti gyllyll llymion, ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith. A Josua a wnaeth iddo gyllyll llymion, ac a enwaedodd ar feibion Israel, ym mryn y blaengrwyn. A dyma’r achos a wnaeth i Josua enwaedu: Yr holl bobl, sef y gwrywiaid y rhai a ddaethent o’r Aifft, yr holl ryfelwyr, a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd, wedi eu dyfod allan o’r Aifft. Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan, oedd enwaededig; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch, ar y ffordd, wedi eu dyfod hwy allan o’r Aifft, nid enwaedasent arnynt. Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aifft, y rhai ni wrandawsent ar lef yr ARGLWYDD: y rhai y tyngasai yr ARGLWYDD wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr ARGLWYDD wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. A Josua a enwaedodd ar eu meibion hwy, y rhai a gododd yn eu lle hwynt: canys dienwaededig oeddynt hwy, am nad enwaedasid arnynt ar y ffordd. A phan ddarfu enwaedu ar yr holl bobl; yna yr arosasant yn eu hunlle, yn y gwersyll, nes eu hiacháu. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Josua, Heddiw y treiglais ymaith waradwydd yr Aifft oddi arnoch: am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal, hyd y dydd heddiw. A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal: a hwy a gynaliasant y Pasg, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, brynhawn, yn rhosydd Jericho. A hwy a fwytasant o hen ŷd y wlad, drannoeth wedi’r Pasg, fara croyw, a chras ŷd, o fewn corff y dydd hwnnw. A’r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlad; a manna ni chafodd meibion Israel mwyach, eithr bwytasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno.