Josua 5:1
Josua 5:1 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd brenhinoedd yr Amoriaid a’r Canaaneaid wedi digalonni’n lân ac mewn panig llwyr. Roedden nhw wedi clywed fod yr ARGLWYDD wedi sychu afon Iorddonen er mwyn i bobl Israel allu croesi drosodd. (Brenhinoedd yr Amoriaid oedd yn teyrnasu i’r gorllewin o’r Iorddonen, a brenhinoedd y Canaaneaid ar hyd arfordir Môr y Canoldir.)
Josua 5:1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywodd holl frenhinoedd yr Amoriaid ar yr ochr orllewinol i'r Iorddonen, a holl frenhinoedd y Canaaneaid yn ymyl y môr, fod yr ARGLWYDD wedi sychu dyfroedd yr Iorddonen o flaen yr Israeliaid, nes iddynt groesi, suddodd eu calon ac nid oedd hyder ganddynt i wynebu'r Israeliaid.
Josua 5:1 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o’r ARGLWYDD ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel.