Josua 4:1-7
Josua 4:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd y genedl gyfan wedi croesi afon Iorddonen, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua: “Dewis un deg dau o ddynion – un o bob llwyth. Dwed wrthyn nhw am gymryd un deg dwy o gerrig o wely’r afon, o’r union fan lle roedd yr offeiriaid yn sefyll. Maen nhw i fynd â’r cerrig, a’u gosod nhw i lawr lle byddwch chi’n gwersylla heno.” Dyma Josua’n galw’r dynion oedd wedi’u penodi at ei gilydd (un dyn o bob llwyth), a dweud wrthyn nhw: “Ewch o flaen Arch yr ARGLWYDD eich Duw i ganol yr Iorddonen. Yno, mae pob un ohonoch chi i godi carreg ar ei ysgwydd – un garreg ar gyfer pob llwyth. Bydd y cerrig yn eich atgoffa chi o beth ddigwyddodd yma. Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy’r cerrig yma?’, gallwch ddweud wrthyn nhw fod afon Iorddonen wedi stopio llifo o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD – wrth i’r Arch groesi, fod y dŵr wedi stopio llifo. A bod y cerrig i atgoffa pobl Israel o beth ddigwyddodd.”
Josua 4:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi i'r holl genedl orffen croesi'r Iorddonen, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Dewiswch ddeuddeg dyn o blith y bobl, un o bob llwyth. Gorchmynnwch iddynt godi deuddeg maen o ganol yr Iorddonen, o'r union fan y saif traed yr offeiriaid arno, a'u cymryd drosodd gyda hwy, a'u gosod yn y lle y byddant yn gwersyllu heno.” Galwodd Josua y deuddeg dyn a ddewisodd o blith yr Israeliaid, un o bob llwyth, a dywedodd wrthynt, “Ewch drosodd o flaen arch yr ARGLWYDD eich Duw at ganol yr Iorddonen, a choded pob un ei faen ar ei ysgwydd, yn ôl nifer llwythau'r Israeliaid, i fod yn arwydd yn eich mysg. Pan fydd eich plant yn gofyn yn y dyfodol, ‘Beth yw ystyr y meini hyn i chwi?’ yna byddwch yn dweud wrthynt fel y bu i ddyfroedd yr Iorddonen gael eu hatal o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD; pan aeth hi drosodd, ataliwyd y dyfroedd. Felly bydd y meini hyn yn gofeb i'r Israeliaid hyd byth.”
Josua 4:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy’r Iorddonen, yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd, Cymerwch i chwi ddeuddengwr o’r bobl, un gŵr o bob llwyth; A gorchmynnwch iddynt, gan ddywedyd, Cymerwch i chwi oddi yma, o ganol yr Iorddonen, o’r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus, ddeuddeg o gerrig; a dygwch hwynt drosodd gyda chwi, a gosodwch hwynt yn y llety y lletyoch ynddo heno. Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a baratoesai efe o feibion Israel, un gŵr o bob llwyth: A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr ARGLWYDD eich DUW, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel: Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddocáu i chwi? Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD; pan oedd hi yn myned trwy ’r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae’r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.