Josua 3:5-8
Josua 3:5-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma Josua’n dweud wrth y bobl, “Gwnewch eich hunain yn barod! Ewch drwy’r ddefod o buro eich hunain i’r ARGLWYDD. Mae e’n mynd i wneud rhywbeth hollol ryfeddol i chi yfory.” Yna dyma Josua’n dweud wrth yr offeiriaid, “Codwch Arch yr Ymrwymiad ac ewch o flaen y bobl.” A dyma nhw’n gwneud hynny. Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “O heddiw ymlaen dw i’n mynd i dy wneud di’n arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Byddan nhw’n gwybod mod i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Dw i eisiau i ti ddweud wrth yr offeiriaid sy’n cario Arch yr Ymrwymiad, ‘Pan ddewch chi at lan afon Iorddonen, cerddwch i mewn i’r dŵr a sefyll yno.’”
Josua 3:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Josua wrth y bobl, “Ymgysegrwch, oherwydd yfory bydd yr ARGLWYDD yn gwneud rhyfeddodau yn eich mysg.” A dywedodd wrth yr offeiriaid, “Codwch arch y cyfamod ac ewch drosodd o flaen y bobl.” Ac wedi iddynt godi arch y cyfamod, aethant o flaen y bobl. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Heddiw yr wyf am ddechrau dy ddyrchafu yng ngolwg Israel gyfan, er mwyn iddynt sylweddoli fy mod i gyda thi fel y bûm gyda Moses. Felly gorchymyn di i'r offeiriaid sy'n cludo arch y cyfamod, ‘Pan ddewch at lan dyfroedd yr Iorddonen, safwch ynddi.’ ”
Josua 3:5-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys yfory y gwna’r ARGLWYDD ryfeddodau yn eich mysg chwi. Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfamod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfamod, ac a aethant o flaen y bobl. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau. Am hynny gorchymyn di i’r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfamod, gan ddywedyd, Pan ddeloch hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.