Josua 3:3-17
Josua 3:3-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
i roi gorchymyn i’r bobl, “Pan fyddwch chi’n gweld Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw yn cael ei chario gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, rhaid i chi symud o’r fan yma, a dilyn yr Arch. Ond peidiwch mynd yn rhy agos ati. Cadwch bellter o ryw hanner milltir rhyngoch chi a’r Arch. Wedyn byddwch yn gweld pa ffordd i fynd. Dych chi ddim wedi bod y ffordd yma o’r blaen.” A dyma Josua’n dweud wrth y bobl, “Gwnewch eich hunain yn barod! Ewch drwy’r ddefod o buro eich hunain i’r ARGLWYDD. Mae e’n mynd i wneud rhywbeth hollol ryfeddol i chi yfory.” Yna dyma Josua’n dweud wrth yr offeiriaid, “Codwch Arch yr Ymrwymiad ac ewch o flaen y bobl.” A dyma nhw’n gwneud hynny. Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “O heddiw ymlaen dw i’n mynd i dy wneud di’n arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Byddan nhw’n gwybod mod i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Dw i eisiau i ti ddweud wrth yr offeiriaid sy’n cario Arch yr Ymrwymiad, ‘Pan ddewch chi at lan afon Iorddonen, cerddwch i mewn i’r dŵr a sefyll yno.’” Felly dyma Josua’n galw ar bobl Israel, “Dewch yma i glywed beth mae’r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud! Dyma sut byddwch chi’n gweld fod y Duw byw gyda chi, a’i fod yn mynd i yrru allan y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebwsiaid. Edrychwch! Mae Arch Ymrwymiad Meistr y ddaear gyfan yn barod i’ch arwain chi ar draws afon Iorddonen! Dewiswch un deg dau o ddynion o lwythau Israel – un o bob llwyth. Pan fydd traed yr offeiriaid sy’n cario Arch yr ARGLWYDD, Meistr y ddaear gyfan, yn cyffwrdd dŵr yr afon, bydd y dŵr yn stopio llifo ac yn codi’n bentwr.” Felly pan adawodd y bobl eu pebyll i groesi’r Iorddonen, dyma’r offeiriaid oedd yn cario Arch yr Ymrwymiad yn mynd o’u blaenau. Roedd hi’n adeg y cynhaeaf, a’r afon wedi gorlifo. Dyma nhw’n dod at yr afon, a phan gyffyrddodd eu traed y dŵr, dyma’r dŵr yn stopio llifo. Roedd y dŵr wedi codi’n bentwr gryn bellter i ffwrdd, wrth Adam (tref wrth ymyl Sarethan). Doedd dim dŵr o gwbl yn llifo i’r Môr Marw. Felly dyma’r bobl yn croesi’r afon gyferbyn â Jericho. Safodd yr offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar wely afon Iorddonen, nes oedd pobl Israel i gyd wedi croesi i’r ochr arall ar dir sych.
Josua 3:3-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
a gorchymyn i'r bobl, “Pan welwch yr offeiriaid, y Lefiaid, yn codi arch cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, cychwynnwch o'ch lle ac ewch ar ei hôl, er mwyn ichwi wybod pa ffordd i fynd, oherwydd nid ydych wedi tramwyo'r ffordd hon o'r blaen. Er hynny bydded pellter o tua dwy fil o gufyddau rhyngoch chwi a'r arch; peidiwch â mynd yn nes na hyn.” Yna dywedodd Josua wrth y bobl, “Ymgysegrwch, oherwydd yfory bydd yr ARGLWYDD yn gwneud rhyfeddodau yn eich mysg.” A dywedodd wrth yr offeiriaid, “Codwch arch y cyfamod ac ewch drosodd o flaen y bobl.” Ac wedi iddynt godi arch y cyfamod, aethant o flaen y bobl. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Heddiw yr wyf am ddechrau dy ddyrchafu yng ngolwg Israel gyfan, er mwyn iddynt sylweddoli fy mod i gyda thi fel y bûm gyda Moses. Felly gorchymyn di i'r offeiriaid sy'n cludo arch y cyfamod, ‘Pan ddewch at lan dyfroedd yr Iorddonen, safwch ynddi.’ ” Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, “Nesewch a gwrandewch eiriau'r ARGLWYDD eich Duw. Dyma sut y byddwch yn gwybod bod y Duw byw yn eich mysg, a'i fod yn sicr o yrru allan o'ch blaen y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebusiaid: bydd arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn croesi o'ch blaen drwy'r Iorddonen. Felly dewiswch yn awr ddeuddeg dyn o blith llwythau Israel, un o bob llwyth. Pan fydd gwadnau traed yr offeiriaid sy'n cludo arch yr ARGLWYDD, Arglwydd yr holl ddaear, yn cyffwrdd â'r Iorddonen, fe wahenir ei dyfroedd, a bydd y dŵr sy'n llifo i lawr oddi uchod yn cronni'n un pentwr.” Pan gychwynnodd y bobl o'u pebyll i groesi'r Iorddonen, yr oedd yr offeiriaid oedd yn cludo arch y cyfamod ar flaen y bobl. Yn awr, bydd yr Iorddonen yn gorlifo ei glannau holl ddyddiau'r cynhaeaf; ond pan ddaeth cludwyr yr arch at yr Iorddonen, a thraed yr offeiriaid oedd yn cludo'r arch yn cyffwrdd ag ymyl y dŵr, cronnodd y dyfroedd oedd yn llifo i lawr oddi uchod, a chodi'n un pentwr ymhell iawn i ffwrdd yn Adam, y dref sydd gerllaw Sarethan. Darfu'n llwyr am y dyfroedd oedd yn llifo i lawr tua Môr yr Araba, y Môr Marw, a chroesodd yr holl bobl gyferbyn â Jericho. Tra oedd Israel gyfan yn croesi ar dir sych, safodd yr offeiriaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD yn drefnus ar sychdir yng nghanol yr Iorddonen, hyd nes i'r holl genedl orffen croesi'r afon.
Josua 3:3-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac a orchmynasant i’r bobl, gan ddywedyd, Pan weloch chwi arch cyfamod yr ARGLWYDD eich DUW, a’r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi; yna cychwynnwch chwi o’ch lle, ac ewch ar ei hôl hi. Eto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau, ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur: na nesewch ati, fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi: canys ni thramwyasoch y ffordd hon o’r blaen. A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys yfory y gwna’r ARGLWYDD ryfeddodau yn eich mysg chwi. Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfamod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfamod, ac a aethant o flaen y bobl. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau. Am hynny gorchymyn di i’r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfamod, gan ddywedyd, Pan ddeloch hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen. A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Nesewch yma, a gwrandewch eiriau yr ARGLWYDD eich DUW. Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y DUW byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyr efe allan y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Hefiaid, a’r Pheresiaid, a’r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a’r Jebusiaid, o’ch blaen chwi. Wele arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o’ch blaen chwi i’r Iorddonen. Gan hynny cymerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel, un gŵr o bob llwyth. A phan orffwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch ARGLWYDD Iôr yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr. A phan gychwynnodd y bobl o’u pebyll, i fyned dros yr Iorddonen, a’r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfamod o flaen y bobl; A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, yng nghwr y dyfroedd, (a’r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhaeaf,) Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ymhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a’r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i’r môr heli, a ddarfuant ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho. A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, a safasant ar dir sych, yng nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.