Josua 3:1-7
Josua 3:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn gynnar y bore wedyn, dyma Josua a phobl Israel i gyd yn gadael Sittim a mynd at yr Iorddonen. Dyma nhw’n aros yno cyn croesi’r afon. Ddeuddydd wedyn, dyma’r arweinwyr yn mynd drwy’r gwersyll i roi gorchymyn i’r bobl, “Pan fyddwch chi’n gweld Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw yn cael ei chario gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, rhaid i chi symud o’r fan yma, a dilyn yr Arch. Ond peidiwch mynd yn rhy agos ati. Cadwch bellter o ryw hanner milltir rhyngoch chi a’r Arch. Wedyn byddwch yn gweld pa ffordd i fynd. Dych chi ddim wedi bod y ffordd yma o’r blaen.” A dyma Josua’n dweud wrth y bobl, “Gwnewch eich hunain yn barod! Ewch drwy’r ddefod o buro eich hunain i’r ARGLWYDD. Mae e’n mynd i wneud rhywbeth hollol ryfeddol i chi yfory.” Yna dyma Josua’n dweud wrth yr offeiriaid, “Codwch Arch yr Ymrwymiad ac ewch o flaen y bobl.” A dyma nhw’n gwneud hynny. Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “O heddiw ymlaen dw i’n mynd i dy wneud di’n arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Byddan nhw’n gwybod mod i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses.
Josua 3:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cododd Josua'n fore a chychwynnodd ef a'r holl Israeliaid o Sittim a dod at yr Iorddonen, a gwersyllu yno cyn croesi. Ymhen tridiau aeth y swyddogion drwy'r gwersyll, a gorchymyn i'r bobl, “Pan welwch yr offeiriaid, y Lefiaid, yn codi arch cyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, cychwynnwch o'ch lle ac ewch ar ei hôl, er mwyn ichwi wybod pa ffordd i fynd, oherwydd nid ydych wedi tramwyo'r ffordd hon o'r blaen. Er hynny bydded pellter o tua dwy fil o gufyddau rhyngoch chwi a'r arch; peidiwch â mynd yn nes na hyn.” Yna dywedodd Josua wrth y bobl, “Ymgysegrwch, oherwydd yfory bydd yr ARGLWYDD yn gwneud rhyfeddodau yn eich mysg.” A dywedodd wrth yr offeiriaid, “Codwch arch y cyfamod ac ewch drosodd o flaen y bobl.” Ac wedi iddynt godi arch y cyfamod, aethant o flaen y bobl. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Heddiw yr wyf am ddechrau dy ddyrchafu yng ngolwg Israel gyfan, er mwyn iddynt sylweddoli fy mod i gyda thi fel y bûm gyda Moses.
Josua 3:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Josua a gyfododd yn fore, a chychwynasant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddonen, efe a holl feibion Israel: lletyasant yno, cyn iddynt fyned drosodd. Ac ymhen y tridiau, y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu; Ac a orchmynasant i’r bobl, gan ddywedyd, Pan weloch chwi arch cyfamod yr ARGLWYDD eich DUW, a’r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi; yna cychwynnwch chwi o’ch lle, ac ewch ar ei hôl hi. Eto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau, ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur: na nesewch ati, fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi: canys ni thramwyasoch y ffordd hon o’r blaen. A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys yfory y gwna’r ARGLWYDD ryfeddodau yn eich mysg chwi. Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfamod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfamod, ac a aethant o flaen y bobl. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau.