Josua 20:1-9
Josua 20:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua: “Dwed wrth bobl Israel am ddewis y trefi lloches wnes i orchymyn i Moses ddweud wrthoch chi amdanyn nhw. Bydd unrhyw un sy’n lladd person yn ddamweiniol yn gallu dianc yno. Bydd y trefi yma yn lle saff i ddianc oddi wrth y perthynas sydd am ddial. Dylai’r un sydd wedi lladd rhywun drwy ddamwain, ddianc i un ohonyn nhw, a mynd i’r llys wrth giât y dref i gyflwyno ei achos i’r arweinwyr yno. Yna byddan nhw’n gadael iddo fynd i mewn i’r dref i fyw. A phan fydd y perthynas sydd â’r hawl i ddial yn dod ar ei ôl, dylen nhw wrthod ei roi iddo, am mai damwain oedd yr hyn ddigwyddodd – doedd e ddim wedi bwriadu lladd. Ond rhaid iddo aros yn y dref nes bydd llys cyhoeddus wedi dod i ddyfarniad ar ei achos, a’r un sy’n archoffeiriad ar y pryd wedi marw. Wedyn bydd yn cael mynd yn ôl i’r dref lle roedd yn byw cyn iddo ddianc.” Felly dyma nhw’n dewis Cedesh yn Galilea, ym mryniau tiriogaeth Nafftali; Sichem ym mryniau Effraim; a Ciriath-arba (sef Hebron) ym mryniau Jwda. Ac i’r dwyrain o afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma nhw’n dewis Betser yn yr anialwch ar wastadedd tiriogaeth llwyth Reuben; Ramoth yn Gilead ar dir llwyth Gad; a Golan yn Bashan oedd yn perthyn i lwyth Manasse. Y rhain gafodd eu dewis yn drefi lloches i bobl Israel a’r mewnfudwyr oedd yn byw gyda nhw. Gallai rhywun oedd wedi lladd person yn ddamweiniol ddianc yno i osgoi cael ei ladd gan y perthynas sydd â’r hawl i ddial, hyd nes i’w achos gael gwrandawiad mewn llys cyhoeddus.
Josua 20:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Josua a dweud, “Dywed wrth yr Israeliaid am neilltuo dinasoedd noddfa, fel y gorchmynnais iddynt trwy Moses, er mwyn i'r sawl sydd wedi lladd rhywun trwy amryfusedd, neu'n anfwriadol, gael ffoi iddynt, a chael noddfa ynddynt rhag y dialydd gwaed. Pan fydd rhywun yn ffoi i un o'r dinasoedd hyn, y mae i sefyll wrth fynediad porth y ddinas, ac adrodd ei achos yng nghlyw henuriaid y ddinas honno. Os byddant yn caniatáu iddo ddod i mewn atynt i'r ddinas, byddant yn nodi lle ar ei gyfer, a chaiff aros yno gyda hwy. Os daw'r dialydd gwaed ar ei ôl, nid ydynt i ildio'r lleiddiad iddo, oherwydd yn anfwriadol y lladdodd ef ei gymydog, ac nid oedd yn ei gasáu'n flaenorol. Caiff aros yn y ddinas honno nes iddo sefyll ei brawf gerbron y gynulleidfa. Ar farwolaeth y sawl fydd yn archoffeiriad ar y pryd, caiff y lleiddiad fynd yn ôl i'w gartref yn y dref y ffodd ohoni.” Neilltuasant Cedes yn Galilea ym mynydd-dir Nafftali, Sichem ym mynydd-dir Effraim, a Ciriath-arba, sef Hebron, ym mynydd-dir Jwda. Y tu hwnt i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho, nodasant Beser ar y gwastatir yn yr anialwch, o lwyth Reuben; Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasse. Nodwyd y dinasoedd hyn ar gyfer yr holl Israeliaid, a'r dieithriaid oedd dros dro yn eu mysg, er mwyn i'r sawl fyddai wedi lladd rhywun mewn amryfusedd ffoi iddynt, rhag iddo farw trwy law dialydd gwaed cyn sefyll ei brawf gerbron y gynulleidfa.
Josua 20:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Josua, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Moeswch i chwi ddinasoedd nodded, am y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses: Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd, neu mewn anwybod: a byddant i chwi yn noddfa rhag dialydd y gwaed. A phan ffo efe i un o’r dinasoedd hynny, a sefyll wrth ddrws porth y ddinas, a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno; cymerant ef atynt i’r ddinas, a rhoddant le iddo, fel y trigo gyda hwynt. Ac os dialydd y gwaed a erlid ar ei ôl ef, na roddant y lleiddiad yn ei law ef: canys mewn anwybod y trawodd efe ei gymydog, ac nid oedd gas ganddo ef o’r blaen. Ac efe a drig yn y ddinas honno, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa i farn, ac nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny: yna dychweled y llofrudd, a deued i’w ddinas ac i’w dŷ ei hun; sef y ddinas yr hon y ffoesai efe ohoni. Am hynny y cysegrasant Cedes yn Galilea, ym mynydd Nafftali, a Sichem ym mynydd Effraim, a Chaer-arba, hon yw Hebron, ym mynydd Jwda. Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain i Jericho, y rhoddasant Beser yn yr anialwch ar y gwastadedd, o lwyth Reuben, a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad, a Golan yn Basan o lwyth Manasse. Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt; fel y ffoai pawb iddynt a’r a laddai neb mewn amryfusedd; ac na byddai marw trwy law dialydd y gwaed, nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa.