Josua 2:8-11
Josua 2:8-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cyn i’r ysbiwyr fynd i gysgu’r noson honno, dyma Rahab yn mynd i fyny i’r to i siarad gyda nhw. Meddai wrthyn nhw, “Dw i’n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD yn mynd i roi’r wlad yma i chi. Mae gan bawb eich ofn chi. Mae pawb yn ofni am eu bywydau. Dŷn ni wedi clywed sut wnaeth yr ARGLWYDD sychu’r Môr Coch o’ch blaenau chi pan ddaethoch chi allan o’r Aifft. A hefyd, sut wnaethoch chi ddinistrio dau frenin yr Amoriaid, Sihon ac Og, yr ochr arall i afon Iorddonen. Pan glywson ni am y peth roedden ni wedi digalonni’n llwyr. Roedd pawb mewn panig. Mae’r ARGLWYDD eich Duw chi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear!
Josua 2:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cyn i'r ysbïwyr gysgu, aeth Rahab i fyny ar y to, a dweud wrthynt, “Gwn fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r wlad i chwi, a bod eich arswyd wedi syrthio arnom, a holl drigolion y wlad mewn gwewyr o'ch plegid. Oherwydd clywsom fel y sychodd yr ARGLWYDD ddyfroedd y Môr Coch o'ch blaen pan ddaethoch allan o'r Aifft, ac fel y bu ichwi ddifodi Sihon ac Og, dau frenin yr Amoriaid y tu hwnt i'r Iorddonen. Pan glywsom hyn, suddodd ein calonnau, ac nid oes hyder gan neb i'ch wynebu, oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw chwi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod.
Josua 2:8-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ: A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o’r ARGLWYDD i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn. Canys ni a glywsom fel y sychodd yr ARGLWYDD ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o’r Aifft; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi. A phan glywsom, yna y’n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr ARGLWYDD eich DUW, efe sydd DDUW yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod.