Josua 2:1-6
Josua 2:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Josua fab Nwn yn anfon dau ysbïwr allan o’r gwersyll yn Sittim, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi ddarganfod beth allwch chi am y wlad, yn arbennig tref Jericho.” Felly, i ffwrdd â nhw, a dyma nhw’n mynd i dŷ putain o’r enw Rahab, ac aros yno dros nos. Ond dyma rywun yn dweud wrth frenin Jericho, “Mae rhai o ddynion Israel wedi dod yma i ysbïo’r wlad.” Felly dyma’r brenin yn anfon milwyr at Rahab, “Tyrd â dy gwsmeriaid allan – y dynion sydd wedi dod i aros yn dy dŷ di. Ysbiwyr ydyn nhw, wedi dod i edrych dros y wlad.” Ond roedd Rahab wedi cuddio’r dynion, a dyma hi’n ateb, “Mae’n wir, roedd yna ddynion wedi dod ata i, ond doeddwn i ddim yn gwybod o ble roedden nhw’n dod. Pan oedd hi’n tywyllu, a giât y ddinas ar fin cael ei chau dros nos, dyma nhw’n gadael. Dw i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad aethon nhw. Os brysiwch chi, gallwch chi eu dal nhw!” (Ond beth roedd Rahab wedi’i wneud go iawn oedd mynd â’r dynion i ben to’r tŷ, a’u cuddio nhw dan y pentyrrau o lin roedd hi wedi’u gosod allan yno.)
Josua 2:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O Sittim anfonodd Josua fab Nun ddau ysbïwr yn ddirgel. Dywedodd wrthynt, “Ewch i ysbïo'r wlad, yn arbennig Jericho.” Aethant hwythau, a chyrraedd tŷ rhyw butain o'r enw Rahab, a lletya yno. Dywedwyd wrth frenin Jericho, “Edrych! Y mae rhai o'r Israeliaid wedi cyrraedd yma heno i chwilio'r wlad.” Anfonodd brenin Jericho at Rahab a dweud, “Tro allan y dynion a ddaeth atat i'th dŷ, oherwydd wedi dod i ysbïo'r holl wlad y maent.” Wedi i'r wraig gymryd y ddau ddyn a'u cuddio, dywedodd, “Do, fe ddaeth y dynion ataf, ond ni wyddwn o ble'r oeddent; a chyda'r nos, pan oedd y porth ar fin cau, aeth y dynion allan. Ni wn i ble'r aethant, ond brysiwch ar eu hôl; yr ydych yn sicr o'u dal.” Yr oedd hi wedi mynd â'r dynion i fyny ar y to, a'u cuddio â'r planhigion llin a oedd ganddi'n rhesi yno.
Josua 2:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau ŵr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ puteinwraig a’i henw Rahab, ac a letyasant yno. A mynegwyd i frenin Jericho, gan ddywedyd, Wele, gwŷr a ddaethant yma heno, o feibion Israel, i chwilio’r wlad. A brenin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat, y rhai a ddaeth i’th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant. Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr, ac a’u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth ataf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy. A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt. Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a’u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ.