Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 2:1-24

Josua 2:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Josua fab Nwn yn anfon dau ysbïwr allan o’r gwersyll yn Sittim, a dweud wrthyn nhw: “Dw i eisiau i chi ddarganfod beth allwch chi am y wlad, yn arbennig tref Jericho.” Felly, i ffwrdd â nhw, a dyma nhw’n mynd i dŷ putain o’r enw Rahab, ac aros yno dros nos. Ond dyma rywun yn dweud wrth frenin Jericho, “Mae rhai o ddynion Israel wedi dod yma i ysbïo’r wlad.” Felly dyma’r brenin yn anfon milwyr at Rahab, “Tyrd â dy gwsmeriaid allan – y dynion sydd wedi dod i aros yn dy dŷ di. Ysbiwyr ydyn nhw, wedi dod i edrych dros y wlad.” Ond roedd Rahab wedi cuddio’r dynion, a dyma hi’n ateb, “Mae’n wir, roedd yna ddynion wedi dod ata i, ond doeddwn i ddim yn gwybod o ble roedden nhw’n dod. Pan oedd hi’n tywyllu, a giât y ddinas ar fin cael ei chau dros nos, dyma nhw’n gadael. Dw i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad aethon nhw. Os brysiwch chi, gallwch chi eu dal nhw!” (Ond beth roedd Rahab wedi’i wneud go iawn oedd mynd â’r dynion i ben to’r tŷ, a’u cuddio nhw dan y pentyrrau o lin roedd hi wedi’u gosod allan yno.) Felly dyma weision y brenin yn mynd i chwilio amdanyn nhw ar hyd y ffordd sy’n arwain at afon Iorddonen, lle mae’r rhydau. A dyma giât y ddinas yn cael ei chau yn syth ar ôl iddyn nhw fynd. Cyn i’r ysbiwyr fynd i gysgu’r noson honno, dyma Rahab yn mynd i fyny i’r to i siarad gyda nhw. Meddai wrthyn nhw, “Dw i’n gwybod yn iawn fod yr ARGLWYDD yn mynd i roi’r wlad yma i chi. Mae gan bawb eich ofn chi. Mae pawb yn ofni am eu bywydau. Dŷn ni wedi clywed sut wnaeth yr ARGLWYDD sychu’r Môr Coch o’ch blaenau chi pan ddaethoch chi allan o’r Aifft. A hefyd, sut wnaethoch chi ddinistrio dau frenin yr Amoriaid, Sihon ac Og, yr ochr arall i afon Iorddonen. Pan glywson ni am y peth roedden ni wedi digalonni’n llwyr. Roedd pawb mewn panig. Mae’r ARGLWYDD eich Duw chi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear! Dw i eisiau i chi fynd ar eich llw, ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, y byddwch chi’n arbed bywydau fy nheulu i, fel dw i wedi arbed eich bywydau chi. Rhowch arwydd sicr i mi na fyddwch chi’n lladd neb yn fy nheulu – dad, mam, fy mrodyr a’m chwiorydd, na neb arall yn y teulu.” A dyma’r dynion yn addo iddi, “Os wnei di ddim dweud wrth neb amdanon ni, byddwn ni’n cadw’n haddewid i ti pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi’r wlad yma i ni. Boed i ni dalu gyda’n bywydau os cewch chi’ch lladd!” Yna dyma Rahab yn eu gollwng nhw i lawr ar raff o ffenest ei thŷ. (Roedd wal allanol ei thŷ hi yn rhan o wal y ddinas.) “Ewch i gyfeiriad y bryniau,” meddai wrthyn nhw. “Fydd y dynion sydd ar eich ôl chi ddim yn dod o hyd i chi wedyn. Cuddiwch yno am dri diwrnod, i roi cyfle iddyn nhw ddod yn ôl. Wedyn gallwch fynd ar eich ffordd.” Dyma’r dynion yn dweud wrthi, “Allwn ni ddim ond cadw’r addewid wnaethon ni i ti ar un amod: Pan fyddwn ni’n ymosod ar y wlad, rhwyma’r rhaff goch yma iddi hongian allan o’r ffenest wnaethon ni ddianc drwyddi. A rhaid i ti gasglu dy deulu i gyd at ei gilydd yn y tŷ – dy dad, dy fam, dy frodyr a dy chwiorydd, a phawb arall. Os bydd unrhyw un yn gadael y tŷ ac yn cael ei ladd, nhw eu hunain fydd ar fai – fydd dim bai arnon ni. Ond os bydd unrhyw un sydd yn y tŷ yn cael niwed, ni fydd yn gyfrifol. Ond os byddi di’n dweud wrth unrhyw un amdanon ni, fyddwn ni ddim yn gyfrifol am dorri’r addewid.” “Digon teg,” meddai hithau. A dyma hi’n eu hanfon nhw i ffwrdd, ac yn rhwymo’r rhaff goch i’r ffenest. Dyma nhw’n mynd i’r bryniau, ac yn aros yno am dri diwrnod – digon o amser i’r dynion oedd yn chwilio amdanyn nhw fynd yn ôl. Roedd y rheiny wedi bod yn edrych amdanyn nhw ym mhobman ar hyd y ffordd, ond wedi methu dod o hyd iddyn nhw. Yna dyma’r ddau ddyn yn troi am yn ôl. Dyma nhw’n dod i lawr o’r bryniau, croesi afon Iorddonen, a mynd at Josua i roi adroddiad iddo o beth oedd wedi digwydd. “Does dim amheuaeth,” medden nhw. “Mae’r ARGLWYDD yn mynd i roi’r wlad i gyd i ni! Mae’r bobl i gyd yn ofni am eu bywydau!”

Josua 2:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

O Sittim anfonodd Josua fab Nun ddau ysbïwr yn ddirgel. Dywedodd wrthynt, “Ewch i ysbïo'r wlad, yn arbennig Jericho.” Aethant hwythau, a chyrraedd tŷ rhyw butain o'r enw Rahab, a lletya yno. Dywedwyd wrth frenin Jericho, “Edrych! Y mae rhai o'r Israeliaid wedi cyrraedd yma heno i chwilio'r wlad.” Anfonodd brenin Jericho at Rahab a dweud, “Tro allan y dynion a ddaeth atat i'th dŷ, oherwydd wedi dod i ysbïo'r holl wlad y maent.” Wedi i'r wraig gymryd y ddau ddyn a'u cuddio, dywedodd, “Do, fe ddaeth y dynion ataf, ond ni wyddwn o ble'r oeddent; a chyda'r nos, pan oedd y porth ar fin cau, aeth y dynion allan. Ni wn i ble'r aethant, ond brysiwch ar eu hôl; yr ydych yn sicr o'u dal.” Yr oedd hi wedi mynd â'r dynion i fyny ar y to, a'u cuddio â'r planhigion llin a oedd ganddi'n rhesi yno. Aeth y dynion a oedd yn eu hymlid ar eu hôl hyd at rydau'r Iorddonen; a chaewyd y porth, wedi i'r ymlidwyr fynd allan. Cyn i'r ysbïwyr gysgu, aeth Rahab i fyny ar y to, a dweud wrthynt, “Gwn fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r wlad i chwi, a bod eich arswyd wedi syrthio arnom, a holl drigolion y wlad mewn gwewyr o'ch plegid. Oherwydd clywsom fel y sychodd yr ARGLWYDD ddyfroedd y Môr Coch o'ch blaen pan ddaethoch allan o'r Aifft, ac fel y bu ichwi ddifodi Sihon ac Og, dau frenin yr Amoriaid y tu hwnt i'r Iorddonen. Pan glywsom hyn, suddodd ein calonnau, ac nid oes hyder gan neb i'ch wynebu, oherwydd y mae'r ARGLWYDD eich Duw chwi yn Dduw yn y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod. Am hynny, tyngwch i mi yn enw'r ARGLWYDD, am i mi wneud caredigrwydd â chwi, y gwnewch chwithau'r un modd â'm teulu i; rhowch imi sicrwydd y cadwch yn fyw fy nhad a'm mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, a phawb sy'n perthyn iddynt, ac yr arbedwch ein bywydau rhag angau.” Dywedodd y dynion wrthi, “Byddwn yn barod i farw yn eich lle, dim ond i chwi beidio â datgelu'n cyfrinach; pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi inni'r wlad, fe wnawn garedigrwydd a thegwch â thi.” Yna gollyngodd Rahab hwy i lawr drwy'r ffenestr ar raff, oherwydd yr oedd ei thŷ ar fur y ddinas, a hithau'n byw ar y mur. Dywedodd wrthynt, “Ewch tua'r mynydd, rhag i'r rhai sy'n eich ymlid daro arnoch; cuddiwch yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd, ac wedyn ewch eich ffordd eich hun.” Dywedodd y dynion wrthi, “Byddwn yn rhydd o'r llw y gwnaethost inni ei dyngu, pan fyddwn yn dod i mewn i'r wlad, os na fyddi wedi rhwymo'r edau ysgarlad hon yn y ffenestr y gollyngaist ni drwyddi, ac wedi galw ynghyd i'r tŷ dy dad a'th fam, dy frodyr a'th deulu i gyd. Pwy bynnag a â allan trwy ddrws dy dŷ, bydd yn gyfrifol am ei waed ei hun, a byddwn ni'n ddieuog; ond pwy bynnag a fydd gyda thi yn y tŷ, byddwn ni'n gyfrifol am ei waed os codir llaw yn ei erbyn. Os datgeli ein cyfrinach, byddwn yn rhydd o'r llw y gwnaethost inni ei dyngu iti.” Atebodd hithau, “Rwy'n cytuno”; ac anfonodd hwy ar eu taith. Wedi iddynt fynd, rhwymodd yr edau ysgarlad yn y ffenestr. Aethant hwythau, a chyrraedd y mynyddoedd ac aros yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd. Bu'r ymlidwyr yn chwilio amdanynt bob cam o'r ffordd, ond heb eu cael. Yna daeth y ddau i lawr o'r mynyddoedd yn eu hôl, a chroesi drosodd at Josua fab Nun ac adrodd wrtho bopeth a ddigwyddodd iddynt, a dweud, “Yn wir y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r holl wlad yn ein dwylo, ac y mae'r trigolion i gyd mewn gwewyr o'n plegid.”

Josua 2:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau ŵr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ puteinwraig a’i henw Rahab, ac a letyasant yno. A mynegwyd i frenin Jericho, gan ddywedyd, Wele, gwŷr a ddaethant yma heno, o feibion Israel, i chwilio’r wlad. A brenin Jericho a anfonodd at Rahab, gan ddywedyd, Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat, y rhai a ddaeth i’th dŷ di; canys i chwilio yr holl wlad y daethant. Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr, ac a’u cuddiasai hwynt, ac a ddywedodd fel hyn; Gwŷr a ddaeth ataf fi, ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy. A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch, y gwŷr a aeth allan; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr: canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt. Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a’u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ. A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt, tua’r Iorddonen, hyd y rhydau: a’r porth a gaewyd, cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan. A chyn iddynt hwy gysgu, hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ: A hi a ddywedodd wrth y gwŷr, Mi a wn roddi o’r ARGLWYDD i chwi y wlad; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni, a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn. Canys ni a glywsom fel y sychodd yr ARGLWYDD ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi, pan ddaethoch allan o’r Aifft; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, sef i Sehon ac i Og, y rhai a ddifrodasoch chwi. A phan glywsom, yna y’n digalonnwyd, fel na safodd mwyach gysur yn neb, rhag eich ofn: canys yr ARGLWYDD eich DUW, efe sydd DDUW yn y nefoedd uchod, ac ar y ddaear isod. Yn awr gan hynny, tyngwch, atolwg, wrthyf, myn yr ARGLWYDD, oherwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi, y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir: Ac y cedwch yn fyw fy nhad, a’m mam, a’m brodyr, a’m chwiorydd, a’r hyn oll sydd ganddynt, ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau. A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Ein heinioes a roddwn i farw drosoch, (os chwi ni fynegwch ein neges hyn,) pan roddo yr ARGLWYDD i ni y wlad hon, oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd. Yna hi a’u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy’r ffenestr: canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas, ac ar y mur yr oedd hi yn trigo. A hi a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r mynydd, rhag i’r erlidwyr gyfarfod â chwi: ac ymguddiwch yno dridiau, nes dychwelyd yr erlidwyr; ac wedi hynny ewch i’ch ffordd. A’r gwŷr a ddywedasant wrthi, Dieuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma â’r hwn y’n tyngaist. Wele, pan ddelom ni i’r wlad, rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi: casgl hefyd dy dad, a’th fam, a’th frodyr, a holl dylwyth dy dad, atat i’r tŷ yma. A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i’r heol, ei waed ef fydd ar ei ben ei hun, a ninnau a fyddwn ddieuog: a phwy bynnag fyddo gyda thi yn tŷ, bydded ei waed ef ar ein pennau ni, o bydd llaw arno ef. Ac os mynegi di ein neges hyn, yna y byddwn ddieuog oddi wrth dy lw â’r hwn y’n tyngaist. A hi a ddywedodd, Yn ôl eich geiriau, felly y byddo hynny. Yna hi a’u gollyngodd hwynt; a hwy a aethant ymaith. A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr. A hwy a aethant, ac a ddaethant i’r mynydd; ac a arosasant yno dridiau, nes i’r erlidwyr ddychwelyd. A’r erlidwyr a’u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd; ond nis cawsant. Felly y ddau ŵr a ddychwelasant, ac a ddisgynasant o’r mynydd, ac a aethant drosodd, a daethant at Josua mab Nun; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt: A dywedasant wrth Josua, Yn ddiau yr ARGLWYDD a roddodd yr holl wlad yn ein dwylo ni; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni.