Josua 18:1-3
Josua 18:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Seilo, ac yn codi pabell presenoldeb Duw. Er eu bod nhw’n rheoli’r wlad, roedd saith o’r llwythau yn dal heb gael eu tir. A dyma Josua yn dweud wrth bobl Israel, “Am faint mwy dych chi’n mynd i dindroi cyn cymryd y tir mae’r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi’i roi i chi?
Josua 18:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth holl gynulliad Israel at ei gilydd i Seilo, a gosod yno babell y cyfarfod. Yr oedd y wlad wedi ei darostwng o'u blaen, ond yr oedd ar ôl ymysg yr Israeliaid saith llwyth heb ddosrannu eu hetifeddiaeth. Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, “Am ba hyd yr ydych am esgeuluso mynd i feddiannu'r tir a roddodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid ichwi?
Josua 18:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt. A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel, i’r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto. A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes ARGLWYDD DDUW eich tadau i chwi?