Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 18:1-10

Josua 18:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Seilo, ac yn codi pabell presenoldeb Duw. Er eu bod nhw’n rheoli’r wlad, roedd saith o’r llwythau yn dal heb gael eu tir. A dyma Josua yn dweud wrth bobl Israel, “Am faint mwy dych chi’n mynd i dindroi cyn cymryd y tir mae’r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi’i roi i chi? Dewiswch dri dyn o bob llwyth. Dw i am eu hanfon nhw i grwydro’r wlad, ei mapio a gwneud arolwg llawn ohoni. Byddan nhw’n ei rhannu yn saith ardal. Ond fydd hyn ddim yn cynnwys tir Jwda i lawr yn y de, na thir Joseff yn y gogledd. Mapiwch y tir a’i rannu’n saith ardal wahanol, a dewch ag e i mi. Wedyn bydda i’n bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, i ddewis pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth. Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o’r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i’r ARGLWYDD. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr ARGLWYDD.” Cyn i’r dynion gychwyn ar eu taith, dyma Josua yn gorchymyn iddyn nhw: “Ewch i grwydro drwy’r wlad a’i mapio, a pharatoi arolwg llawn ohoni i mi. Yna dewch yn ôl ata i. Bydda i wedyn yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yma yn Seilo, i weld pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.” Felly dyma’r dynion yn mynd drwy’r wlad i gyd, a’i mapio, a rhestru’r trefi i gyd ar sgrôl, a rhannu’r tir yn saith ardal. Yna dyma nhw’n dod yn ôl at Josua i’r gwersyll yn Seilo. A dyma Josua yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yn Seilo, i rannu’r tir rhwng pobl Israel, a gweld pa ardal fyddai pob llwyth yn ei gael.

Josua 18:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth holl gynulliad Israel at ei gilydd i Seilo, a gosod yno babell y cyfarfod. Yr oedd y wlad wedi ei darostwng o'u blaen, ond yr oedd ar ôl ymysg yr Israeliaid saith llwyth heb ddosrannu eu hetifeddiaeth. Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, “Am ba hyd yr ydych am esgeuluso mynd i feddiannu'r tir a roddodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid ichwi? Dewiswch dri dyn o bob llwyth, imi eu hanfon allan i gerdded y wlad a gwneud rhestrau ar gyfer ei hetifeddu, ac yna dod yn ôl ataf. Y maent i'w rhannu'n saith rhan; y mae Jwda i gadw ei derfyn yn y de, a thŷ Joseff ei derfyn yn y gogledd. Ac wedi ichwi ddosbarthu'r tir yn saith rhan, dewch â'r rhestrau ataf fi i'r fan hon, er mwyn imi fwrw coelbren drosoch yma gerbron yr ARGLWYDD ein Duw. Ni fydd rhan i'r Lefiaid yn eich mysg, oherwydd offeiriadaeth yr ARGLWYDD yw eu hetifeddiaeth hwy; a hefyd y mae Gad a Reuben a hanner llwyth Manasse wedi cael eu hetifeddiaeth i'r dwyrain o'r Iorddonen o law Moses gwas yr ARGLWYDD.” Pan oedd y dynion yn cychwyn ar eu taith i restru'r tir, gorchmynnodd Josua iddynt, “Ewch i fyny ac i lawr y wlad, a rhestrwch hi; yna dewch yn ôl ataf fi, ac fe fwriaf goelbren drosoch gerbron yr ARGLWYDD yma yn Seilo.” Aeth y dynion, a cherdded y wlad a'i rhestru mewn llyfr, yn saith rhan, fesul trefi; yna daethant yn ôl at Josua yng ngwersyll Seilo. Bwriodd Josua goelbren drostynt gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo, a rhannu'r tir i'r Israeliaid, cyfran i bob un.

Josua 18:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt. A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel, i’r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto. A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes ARGLWYDD DDUW eich tadau i chwi? Moeswch ohonoch driwyr o bob llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosbarthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt; ac y delont ataf drachefn. A hwy a’i rhannant hi yn saith ran. Jwda a saif ar ei derfyn o du’r deau, a thŷ Joseff a safant ar eu terfyn o du’r gogledd. A chwi a ddosberthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosbarthiadau ataf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr ARGLWYDD ein DUW. Ond ni bydd rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi; oherwydd offeiriadaeth yr ARGLWYDD fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasse, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du’r dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD iddynt. A’r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchmynnodd i’r rhai oedd yn myned i rannu’r wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy’r wlad, a dosberthwch hi, a dychwelwch ataf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo. A’r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy’r wlad, ac a’i dosbarthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i’r gwersyll yn Seilo. A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ôl eu rhannau.