Josua 14:6-15
Josua 14:6-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedden nhw yn Gilgal, dyma ddynion o lwyth Jwda yn mynd i weld Josua. Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad oedd yn siarad ar eu rhan, ac meddai, “Ti’n cofio beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, dyn Duw, amdanon ni’n dau, yn Cadesh-barnea? Pedwar deg oed oeddwn i pan anfonodd Moses fi o Cadesh-barnea i ysbïo ar y wlad. A dyma fi’n rhoi adroddiad cwbl onest iddo pan ddes i yn ôl. Roedd y dynion eraill aeth gyda ni wedi dychryn y bobl a gwneud iddyn nhw ddigalonni. Ond roeddwn i wedi aros yn ffyddlon i’r ARGLWYDD fy Nuw. A’r diwrnod hwnnw dyma Moses yn addo ar lw: ‘Bydd y tir lle buoch chi’n cerdded yn cael ei roi i ti a dy deulu am byth, am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon i’r ARGLWYDD dy Dduw.’ Ac mae’r ARGLWYDD wedi cadw ei addewid. Dyma fi, yn dal yn fyw, bedwar deg pum mlynedd yn ddiweddarach. Dyna faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i’r ARGLWYDD siarad â Moses pan oedd pobl Israel yn crwydro yn yr anialwch. Dw i’n wyth deg pum mlwydd oed bellach, ac yn dal mor gryf ag oeddwn i pan anfonodd Moses fi allan! Dw i’n dal i allu ymladd a gwneud popeth roeddwn i’n ei wneud bryd hynny. Felly rho i mi’r bryniau wnaeth yr ARGLWYDD eu haddo i mi. Mae’n siŵr y byddi’n cofio fod disgynyddion Anac yn byw yno, mewn trefi caerog mawr. Ond gyda help yr ARGLWYDD, bydda i’n cael gwared â nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo.” Felly dyma Josua yn bendithio Caleb fab Jeffwnne, a rhoi tref Hebron iddo. Mae disgynyddion Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad yn dal i fyw yn Hebron hyd heddiw, am ei fod wedi bod yn ffyddlon i’r ARGLWYDD, Duw Israel. Yr hen enw ar Hebron oedd Ciriath-arba, wedi’i enwi ar ôl Arba, oedd yn un o arwyr yr Anaciaid. Ac roedd heddwch yn y wlad.
Josua 14:6-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth llwyth Jwda gerbron Josua yn Gilgal, a dywedodd Caleb fab Jeffunne'r Cenesiad wrtho, “Gwyddost yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses gŵr Duw amdanom ni'n dau yn Cades-barnea. Deugain oed oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr ARGLWYDD fi o Cades-barnea i ysbïo'r wlad. Deuthum ag adroddiad diragfarn yn ôl iddo. Er bod fy nghymdeithion wedi digalonni'r bobl, fe lwyr ddilynais i yr ARGLWYDD fy Nuw; ac fe addawodd Moses imi y diwrnod hwnnw: ‘Yn sicr, etifeddiaeth i ti ac i'th blant am byth fydd y tir y bydd dy droed yn sangu arno, am iti lwyr ddilyn yr ARGLWYDD, fy Nuw.’ Yn awr, dyma'r ARGLWYDD wedi f'arbed, fel yr addawodd, dros y pum mlynedd a deugain hyn er pan lefarodd yr ARGLWYDD yr addewid hon wrth Moses, pan oedd Israel yn rhodio'r anialwch; a dyma fi heddiw yn bump a phedwar ugain oed. Yr wyf mor gryf heddiw ag ar y diwrnod yr anfonodd Moses fi; y mae fy nerth cystal yn awr â'r adeg honno i ryfela ac i arwain byddin. Felly rho imi'n awr y mynydd-dir hwn a addawodd yr ARGLWYDD y pryd hwnnw; oherwydd fe glywaist ti dy hun yr adeg honno fod Anacim yno, a bod eu dinasoedd yn rhai mawr a chaerog; ond odid na fydd yr ARGLWYDD gyda mi, ac fe'u gyrraf hwy allan, fel yr addawodd yr ARGLWYDD.” Bendithiodd Josua ef a rhoddodd Hebron yn etifeddiaeth i Caleb fab Jeffunne. Dyna pam y mae Hebron yn feddiant i Caleb fab Jeffunne'r Cenesiad hyd heddiw, am, iddo lwyr ddilyn yr ARGLWYDD, Duw Israel. Enw Hebron gynt oedd Ciriath-arba, ar ôl Arba, prif ddyn yr Anacim. A chafodd y wlad lonydd rhag rhyfel.
Josua 14:6-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna meibion Jwda a ddaethant at Josua yn Gilgal: a Chaleb mab Jeffunne y Cenesiad a ddywedodd wrtho ef, Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses gŵr DUW o’m plegid i, ac o’th blegid dithau, yn Cades-barnea. Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr ARGLWYDD fi o Cades-barnea, i edrych ansawdd y wlad; a mi a ddygais air iddo ef drachefn, fel yr oedd yn fy nghalon. Ond fy mrodyr, y rhai a aethant i fyny gyda mi, a ddigalonasant y bobl: eto myfi a gyflawnais fyned ar ôl yr ARGLWYDD fy NUW. A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Diau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni, yn etifeddiaeth i ti, ac i’th feibion hyd byth; am i ti gyflawni myned ar ôl yr ARGLWYDD fy NUW. Ac yn awr, wele yr ARGLWYDD a’m cadwodd yn fyw, fel y llefarodd efe, y pum mlynedd a deugain hyn, er pan lefarodd yr ARGLWYDD y gair hwn wrth Moses, tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch: ac yn awr, wele fi heddiw yn fab pum mlwydd a phedwar ugain. Yr ydwyf eto mor gryf heddiw â’r dydd yr anfonodd Moses fi: fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw, felly y mae fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn. Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr ARGLWYDD y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr ARGLWYDD fydd gyda mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr ARGLWYDD. A Josua a’i bendithiodd ef, ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jeffunne yn etifeddiaeth. Am hynny mae Hebron yn etifeddiaeth i Caleb mab Jeffunne y Cenesiad hyd y dydd hwn: oherwydd iddo ef gwblhau myned ar ôl ARGLWYDD DDUW Israel. Ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer-arba: yr Arba hwnnw oedd ŵr mawr ymysg yr Anaciaid. A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.