Josua 14:12
Josua 14:12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly rho i mi’r bryniau wnaeth yr ARGLWYDD eu haddo i mi. Mae’n siŵr y byddi’n cofio fod disgynyddion Anac yn byw yno, mewn trefi caerog mawr. Ond gyda help yr ARGLWYDD, bydda i’n cael gwared â nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo.”
Josua 14:12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly rho imi'n awr y mynydd-dir hwn a addawodd yr ARGLWYDD y pryd hwnnw; oherwydd fe glywaist ti dy hun yr adeg honno fod Anacim yno, a bod eu dinasoedd yn rhai mawr a chaerog; ond odid na fydd yr ARGLWYDD gyda mi, ac fe'u gyrraf hwy allan, fel yr addawodd yr ARGLWYDD.”
Josua 14:12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr ARGLWYDD y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr ARGLWYDD fydd gyda mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr ARGLWYDD.