Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 13:1-32

Josua 13:1-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan oedd Josua wedi mynd yn hen iawn, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ti’n mynd yn hen, ac mae yna lot fawr o dir sydd eto heb ei goncro. Dyma’r tir sydd ar ôl: Tir y Philistiaid a’r Geshwriaid, o afon Sihor ar y ffin gyda’r Aifft i fyny yr holl ffordd i dir Ecron yn y gogledd (y cwbl yn dir sy’n perthyn i’r Canaaneaid). Mae’n cynnwys tiriogaeth arweinwyr y Philistiaid yn Gasa, Ashdod, Ashcelon, Gath ac Ecron – y pump ohonyn nhw. Tir yr Afiaid hefyd, sydd i lawr yn y de. Yna i’r gogledd, tir y Canaaneaid o dref Ara yn Sidon i Affec, sydd ar y ffin gyda’r Amoriaid. Tir y Gebaliaid a Libanus i gyd. Ac yna yn y dwyrain, o Baal-gad wrth droed Mynydd Hermon i Fwlch Chamath. A dw i am yrru allan o flaen pobl Israel bawb sy’n byw yn mynydd-dir Libanus, yr holl ffordd i Misreffoth-maim, sef tir y Sidoniaid. “Mae’r tir yma i gyd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel, fel dw i wedi gorchymyn i ti. Bydd gan bob llwyth ei diriogaeth ei hun. Mae i’w rannu rhwng y naw llwyth a hanner sydd ddim eto wedi cael tir.” Roedd hanner llwyth Manasse, a llwythau Reuben a Gad wedi derbyn tir i’r dwyrain o afon Iorddonen. Moses, gwas yr ARGLWYDD, oedd wedi rhoi y tir hwnnw iddyn nhw. Roedd eu tiriogaeth yn cynnwys Aroer, ger Dyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba yr holl ffordd i Dibon. Hefyd y trefi oedd yn arfer perthyn i Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, at y ffin gydag Ammon. Roedd yn cynnwys Gilead, tiroedd Geshwr a Maacha, Mynydd Hermon a thir Bashan i Salca. Hefyd tiriogaeth Og, brenin Bashan, oedd yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei. (Roedd Og yn un o’r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl bryd hynny.) Roedd Moses wedi’u concro nhw, a chymryd eu tiroedd. Ond wnaeth Israel ddim gyrru allan bobl Geshwr a Maacha – maen nhw’n dal i fyw gyda phobl Israel hyd heddiw. Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi chwaith, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i’w llosgi i’r ARGLWYDD, Duw Israel. Dyma’r tir roedd Moses wedi’i roi i deuluoedd llwyth Reuben: Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Aroer, yn Nyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba, Cheshbon, a’r trefi o’i chwmpas – gan gynnwys Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon, Iahats, Cedemoth, Meffaäth, Ciriathaim, Sibma, Sereth-shachar ar y bryn yn y dyffryn, Beth-peor, llethrau Mynydd Pisga, a Beth-ieshimoth. Roedd yn cynnwys trefi’r gwastadedd i gyd, a holl diriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu o Cheshbon. Roedd Moses wedi’i goncro fe, ac arweinwyr y Midianiaid oedd dan ei reolaeth ac yn byw yn ei diriogaeth – Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba. Roedd pobl Israel hefyd wedi lladd y dewin, Balaam fab Beor, ac eraill. Ffin orllewinol tiriogaeth Reuben oedd afon Iorddonen. Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Reuben yn cynnwys y trefi yma i gyd a’r pentrefi o’u cwmpas. Dyma’r tir roedd Moses wedi’i roi i deuluoedd llwyth Gad: Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Iaser, trefi Gilead i gyd, a hanner tiriogaeth pobl Ammon, yr holl ffordd i Aroer, ger Rabba. Roedd yn ymestyn o Cheshbon yn y de i Ramath-mitspe a Betonîm yn y gogledd, ac o Machanaîm i ardal Debir. Roedd yn cynnwys y tir i’r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, gan gynnwys trefi Beth-haram, Beth-nimra, Swccoth, a Saffon, a gweddill tiriogaeth Sihon, oedd yn teyrnasu o Cheshbon – sef y tir i’r dwyrain o afon Iorddonen yr holl ffordd at Lyn Galilea. Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Gad yn cynnwys y trefi yma i gyd a’r pentrefi o’u cwmpas. Dyma’r tir roedd Moses wedi’i roi i deuluoedd hanner llwyth Manasse: Roedd eu tiriogaeth nhw yn ymestyn tua’r gogledd o Machanaîm, ac yn cynnwys teyrnas Og, brenin Bashan, i gyd. Roedd yn cynnwys y chwe deg o drefi yn Hafoth-jair yn Bashan, hanner Gilead, a trefi Ashtaroth ac Edrei (sef y trefi lle roedd Og, brenin Bashan, wedi bod yn teyrnasu). Cafodd y tir yma i gyd ei roi i ddisgynyddion Machir fab Manasse, sef teuluoedd hanner llwyth Manasse. Dyna sut wnaeth Moses rannu’r tir pan oedd ar wastatir Moab i’r dwyrain o afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.

Josua 13:1-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wedi i Josua heneiddio a mynd i oed, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Yr wyt yn hen ac wedi mynd i oed, ac y mae llawer iawn o dir yn aros i'w feddiannu. Dyma'r tir sydd ar ôl: holl ardaloedd y Philistiaid ac eiddo'r Gesuriaid i gyd (i'r Canaaneaid y cyfrifir y tir o'r afon Sihor sydd ar drothwy'r Aifft hyd derfyn Ecron i'r gogledd, sef cylchoedd pum teyrn y Philistiaid: Gasa, Asdod, Ascalon, Gath ac Ecron), a thir yr Afiaid yn y de; holl wlad y Canaaneaid, yn cynnwys Meara sy'n perthyn i'r Sidoniaid, hyd at Affec a therfyn yr Amoriaid; hefyd tir y Gebaliaid a Lebanon i gyd i'r dwyrain o Baal-gad islaw Mynydd Hermon, hyd at Lebo-hamath. Byddaf yn gyrru ymaith y Sidoniaid i gyd, holl drigolion y mynydd-dir, o Lebanon hyd Misreffoth-maim, o flaen yr Israeliaid; rhanna di'r etifeddiaeth i Israel fel y gorchmynnais iti. Rhanna'n awr y wlad hon yn etifeddiaeth i'r naw llwyth ac i hanner llwyth Manasse.” Y mae hanner arall y llwyth, a hefyd Reuben a Gad, wedi cymryd yr etifeddiaeth a roddodd Moses iddynt i'r dwyrain o'r Iorddonen, fel yr oedd ef, gwas yr ARGLWYDD, wedi ei nodi ar eu cyfer: o Aroer sydd ar ymyl nant Arnon, ac o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, gyda'r holl wastadedd o Medeba hyd Dibon; a holl ddinasoedd Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn teyrnasu yn Hesbon, hyd at derfyn yr Ammoniaid, a Gilead hefyd a thiriogaeth y Gesuriaid a'r Maachathiaid, sef holl fynydd-dir Hermon, a Basan i gyd hyd at Salcha, sef y cwbl yn Basan o deyrnas Og a lywodraethai o Astaroth ac Edrei. Yr oedd ef yn un o weddill y Reffaim a drawyd gan Moses a'u gyrru allan. Ni yrrodd yr Israeliaid y Gesuriaid a'r Maachathiaid allan, ond y maent yn byw ymysg yr Israeliaid hyd heddiw. Ni roddwyd etifeddiaeth i lwyth Lefi; oherwydd offrymau trwy dân yr ARGLWYDD, Duw Israel, yw eu hetifeddiaeth hwy, fel y dywedodd ef wrthynt. Yr oedd Moses wedi rhoi etifeddiaeth i lwyth Reuben yn ôl eu teuluoedd. Yr oedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Aroer sydd ar ymyl nant Arnon, ac o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, gyda'r holl wastadedd hyd at Medeba; yr oedd yn cynnwys Hesbon a'i holl drefi ar y gwastadedd, Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon, Jahas, Cedemoth, Meffaath, Ciriathaim, Sibma, Sereth-sahar ar fynydd y glyn, Beth-peor, llethrau Pisga a Beth-jesimoth, sef holl drefi'r gwastadedd a holl deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn teyrnasu yn Hesbon ond a laddwyd gan Moses ynghyd â thywysogion Midian, Efi, Recem, Sur, Hur a Reba, pendefigion Sihon oedd yn byw yn y wlad. Yr oedd Balaam fab Beor, y dewin, yn un o'r rhai a laddwyd gan yr Israeliaid â'r cleddyf. Yr Iorddonen a'i goror oedd terfyn llwyth Reuben; a dyna'u hetifeddiaeth yn ôl eu teuluoedd, gyda'u trefi a'u pentrefi. Rhoddodd Moses etifeddiaeth i lwyth Gad yn ôl eu teuluoedd. Eu tiriogaeth hwy oedd Jaser a holl drefi Gilead a hanner tir yr Ammoniaid hyd at Aroer sydd o flaen Rabba; yna o Hesbon at Ramath-mispa a Betonim, ac o Mahanaim at derfyn Lo-debar; yna, yn y dyffryn, Beth-haram, Beth-nimra, Succoth a Saffon, gweddill teyrnas Sihon brenin Hesbon; yr Iorddonen oedd y terfyn at gwr isaf Môr Cinnereth i'r dwyrain o'r Iorddonen. Dyma etifeddiaeth Gad yn ôl eu teuluoedd, gyda'u trefi a'u pentrefi. Rhoddodd Moses etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse yn ôl eu teuluoeoedd. Yr oedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Mahanaim ac yn cynnwys Basan i gyd, holl deyrnas Og brenin Basan, a'r cwbl o Hafoth-jair yn Basan, sef trigain tref. Aeth hanner Gilead ynghyd ag Astaroth ac Edrei, dinasoedd brenhinol Og yn Basan, i feibion Machir fab Manasse, sef hanner llwyth Machir, yn ôl eu teuluoedd. Dyma'r tiroedd a rannodd Moses yng ngwastadeddau Moab y tu hwnt i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho.

Josua 13:1-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan heneiddiodd Josua, a phwyso ohono mewn oedran, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Tydi a heneiddiaist, daethost i ddyddiau oedrannus, a thir lawer iawn sydd eto i’w feddiannu. Dyma y wlad sydd eto yn ôl: holl derfynau y Philistiaid, a holl Gesuri, O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aifft, hyd derfyn Ecron tua’r gogledd, yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid: pum tywysog y Philistiaid: y Gasathiaid, a’r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid: O’r deau, holl wlad y Canaaneaid, a’r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Affec, hyd derfyn yr Amoriaid: A gwlad y Gibliaid, a holl Libanus, tua chyfodiad haul, o Baal-gad dan fynydd Hermon, nes dyfod i Hamath. Holl breswylwyr y mynydd-dir o Libanus hyd Misreffoth-maim, a’r holl Sidoniaid, y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel: yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth, fel y gorchmynnais i ti. Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth, ac i hanner llwyth Manasse. Gyda’r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth, yr hon a roddodd Moses iddynt hwy, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r dwyrain, fel y rhoddes Moses gwas yr ARGLWYDD iddynt; O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon: A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon; Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha; Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o weddill y cewri: canys Moses a’u trawsai hwynt, ac a’u gyrasai ymaith. Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na’r Maachathiaid; eithr trigodd y Gesuriaid a’r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn. Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd ARGLWYDD DDUW Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho. A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy eu teuluoedd: A’u terfyn hwynt oedd o Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a’r holl wastadedd wrth Medeba; Hesbon a’i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-baal, a Beth-baalmeon; Jahasa hefyd, a Cedemoth, a Meffaath; Ciriathaim hefyd, a Sibma, a Sarethsahar, ym mynydd-dir y glyn; Beth-peor hefyd, ac Asdoth-pisga, a Beth-jesimoth, A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, gyda thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, dugiaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad. Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â’r cleddyf, ymhlith eu lladdedigion hwynt. A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefi. Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd; A Jaser oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabba; Ac o Hesbon hyd Ramath-mispe, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir; Ac yn y dyffryn, Beth-aram, a Beth-nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a’i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain. Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefydd. Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd: A’u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas; A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd. Dyma y gwledydd a roddodd Moses i’w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho, o du y dwyrain.