Josua 1:6-9
Josua 1:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd yn gryf a dewr; oherwydd ti fydd yn rhoi i'r bobl hyn feddiant o'r wlad yr addewais ei rhoi i'w hynafiaid. Yn unig bydd yn gryf a dewr iawn, a gofala weithredu yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iti. Paid â gwyro oddi wrthi i'r dde na'r chwith, er mwyn iti ffynnu ple bynnag yr ei. Nid yw'r llyfr cyfraith hwn i adael dy enau; yr wyt i fyfyrio ynddo ddydd a nos, er mwyn iti ofalu gwneud y cyfan sy'n ysgrifenedig ynddo. Yna byddi'n llwyddo yn dy ffyrdd ac yn ffynnu. Onid wyf wedi gorchymyn iti: bydd yn gryf a dewr? Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei.”
Josua 1:6-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd yn gryf a dewr. Ti’n mynd i arwain y bobl yma i goncro’r wlad wnes i addo ei rhoi i’w hynafiaid. Ond rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn! Gwna’n siŵr dy fod yn gwneud popeth mae’r Gyfraith roddodd Moses i ti yn ei ddweud. Paid crwydro oddi wrthi o gwbl, a byddi di’n llwyddo beth bynnag wnei di. Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a’i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae’n ei ddweud. Dyna sut fyddi di’n llwyddo. Dw i’n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o’r ffordd!”
Josua 1:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd yn gryf a dewr; oherwydd ti fydd yn rhoi i'r bobl hyn feddiant o'r wlad yr addewais ei rhoi i'w hynafiaid. Yn unig bydd yn gryf a dewr iawn, a gofala weithredu yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iti. Paid â gwyro oddi wrthi i'r dde na'r chwith, er mwyn iti ffynnu ple bynnag yr ei. Nid yw'r llyfr cyfraith hwn i adael dy enau; yr wyt i fyfyrio ynddo ddydd a nos, er mwyn iti ofalu gwneud y cyfan sy'n ysgrifenedig ynddo. Yna byddi'n llwyddo yn dy ffyrdd ac yn ffynnu. Onid wyf wedi gorchymyn iti: bydd yn gryf a dewr? Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei.”
Josua 1:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymgryfha, ac ymwrola: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu’r wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt. Yn unig ymgryfha, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych. Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni. Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych.