Josua 1:1-5
Josua 1:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl i Moses, gwas yr ARGLWYDD, farw, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, gwas Moses: “Mae Moses fy ngwas wedi marw. Dos, a chroesi afon Iorddonen. Dw i eisiau i ti arwain y bobl yma i’r tir dw i’n ei roi i chi. Fel gwnes i addo i Moses, dw i’n mynd i roi i chi bob modfedd sgwâr fyddwch chi’n cerdded arni. Bydd eich tir yn ymestyn yr holl ffordd o’r diffeithwch yn y de i Fryniau Libanus yn y gogledd. A’r holl ffordd o afon Ewffrates yn y dwyrain (gan gynnwys gogledd Syria hefyd) i Fôr y Canoldir yn y gorllewin. Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di.
Josua 1:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi marw Moses gwas yr ARGLWYDD, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses, “Y mae fy ngwas Moses wedi marw; yn awr, croesa di a'r holl bobl hyn yr Iorddonen yma i'r wlad yr wyf fi'n ei rhoi i blant Israel. Rhof i chwi bob llecyn y bydd gwadn eich troed yn cerdded drosto, fel y dywedais wrth Moses. Bydd eich terfyn yn ymestyn o'r anialwch a Lebanon hyd at yr afon fawr, afon Ewffrates, sef holl wlad yr Hethiaid, hyd at y Môr Mawr yn y gorllewin. Ni saif neb o'th flaen tra byddi byw; byddaf gyda thi fel y bûm gyda Moses; ni'th adawaf na chefnu arnat.
Josua 1:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd, Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a’r holl bobl hyn, i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel. Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses. O’r anialwch, a’r Libanus yma, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates, holl wlad yr Hethiaid, hyd y môr mawr, tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi. Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.