Joel 3:1-2
Joel 3:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bryd hynny, bydda i’n gwneud i Jwda a Jerwsalem lwyddo eto. Yna bydda i’n casglu’r cenhedloedd i gyd i “Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD” Yno bydda i’n eu barnu nhw am y ffordd maen nhw wedi trin fy mhobl arbennig i, Israel. Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman, rhannu y tir rois i iddyn nhw
Joel 3:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Yn y dyddiau hynny ac ar yr amser hwnnw, pan adferaf lwyddiant Jwda a Jerwsalem, fe gasglaf yr holl genhedloedd a'u dwyn i ddyffryn Jehosaffat, a mynd i farn â hwy yno ynglŷn â'm pobl a'm hetifeddiaeth, Israel, am iddynt eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd a rhannu fy nhir
Joel 3:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys wele, yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, pan ddychwelwyf gaethiwed Jwda a Jerwsalem, Casglaf hefyd yr holl genhedloedd, a dygaf hwynt i waered i ddyffryn Jehosaffat; a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl, a’m hetifeddiaeth Israel, y rhai a wasgarasant hwy ymysg y cenhedloedd, a rhanasant fy nhir.