Job 9:1-20
Job 9:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Job yn ateb: “Wrth gwrs, dw i’n gwybod fod hyn i gyd yn wir! Sut all person dynol fod yn gyfiawn o flaen Duw? Er y carai rhywun ddadlau ei achos gydag e, fyddai rhywun ddim yn gallu ateb un o bob mil o’i gwestiynau! Mae Duw mor ddoeth a grymus – pwy sydd wedi’i herio a dod allan yn un darn? Mae e’n symud mynyddoedd heb rybudd, ac yn eu bwrw wyneb i waered yn ei ddig. Mae’n ysgwyd y ddaear o’i lle, nes bod ei cholofnau’n crynu. Mae’n rhoi gorchymyn i’r haul beidio tywynnu, ac yn cloi y sêr dan sêl. Mae e’n lledu’r awyr, ac yn sathru tonnau’r môr. Fe wnaeth yr Arth ac Orion, Pleiades a chlystyrau sêr y de. Mae’n gwneud pethau mawr, tu hwnt i’n deall ni, a phethau rhyfeddol na ellir byth eu cyfrif. Ond petai’n pasio heibio allwn i mo’i weld; mae’n symud yn ei flaen heb i mi sylwi. Petai’n cymryd rhywbeth, pwy all ei stopio? Pwy fyddai’n meiddio dweud, ‘Beth wyt ti’n wneud?’ Duw ydy e, a dydy e ddim yn atal ei ddigofaint; mae helpwyr bwystfil y môr wedi’u bwrw i lawr. Felly pa obaith sydd i mi ei ateb, a dod o hyd i ddadleuon yn ei erbyn? Er fy mod i’n ddieuog, alla i mo’i ateb, dim ond pledio am drugaredd gan fy Marnwr. Hyd yn oed petai’n ymateb i’m gwŷs, allwn i ddim bod yn siŵr y byddai’n gwrando arna i – oherwydd mae’n fy sathru i am y nesa peth i ddim, ac wedi fy anafu drosodd a throsodd am ddim rheswm. Dydy e ddim yn rhoi cyfle i mi ddal fy ngwynt, dim ond fy llenwi â gwenwyn chwerw! Os mai prawf cryfder ydy hyn – fe ydy’r Un cry! Os mai cwestiwn o bwy sy’n iawn – pwy sy’n mynd i’w alw e i’r llys? Er fy mod i’n ddieuog, byddai fy ngeiriau’n fy nghondemnio i; er fy mod i’n ddi-fai, byddai e’n dangos i mi fy mod yn euog.
Job 9:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Job: “Gwn yn sicr fod hyn yn wir, na all neb ei gyfiawnhau ei hun gyda Duw. Os myn ymryson ag ef, nid etyb ef unwaith mewn mil. Y mae'n ddoeth a chryf; pwy a ystyfnigodd yn ei erbyn yn llwyddiannus? Y mae'n symud mynyddoedd heb iddynt wybod, ac yn eu dymchwel yn ei lid. Y mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle, a chryna'i cholofnau. Y mae'n gorchymyn i'r haul beidio â chodi, ac yn gosod sêl ar y sêr. Taenodd y nefoedd ei hunan, a sathrodd grib y môr. Creodd yr Arth ac Orion, Pleiades a chylch Sêr y De. Gwna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy, a rhyfeddodau dirifedi. “Pan â heibio imi, nis gwelaf, a diflanna heb i mi ddirnad. Os cipia, pwy a'i rhwystra? Pwy a ddywed wrtho, ‘Beth a wnei?’? Ni thry Duw ei lid ymaith; ymgreinia cynorthwywyr Rahab wrth ei draed. Pa faint llai yr atebwn i ef, a dadlau gair am air ag ef? Hyd yn oed pe byddwn gyfiawn, ni'm hatebid, dim ond ymbil am drugaredd gan fy marnwr. Pe gwysiwn ef ac yntau'n ateb, ni chredwn y gwrandawai arnaf. Canys heb reswm y mae'n fy nryllio, ac yn amlhau f'archollion yn ddiachos. Nid yw'n rhoi cyfle imi gymryd fy anadl, ond y mae'n fy llenwi â chwerwder. “Os cryfder a geisir, wele ef yn gryf; os barn, pwy a'i geilw i drefn? Pe bawn gyfiawn, condemniai fi â'm geiriau fy hun; pe bawn ddi-fai, dangosai imi gyfeiliorni.
Job 9:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna Job a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir mi a wn mai felly y mae: canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda DUW? Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil. Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd? Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint. Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o’i lle, fel y cryno ei cholofnau hi. Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr. Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr. Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau. Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif. Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a â rhagddo, ac ni chanfyddaf ef. Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a’i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur? Oni thry DUW ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder. Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef? I’r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â’m barnwr. Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd. Canys efe a’m dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos. Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a’m lleinw â chwerwder. Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi? Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a’m barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a’m barn yn gildyn.