Job 38:1-41
Job 38:1-41 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma’r ARGLWYDD yn ateb Job o’r storm ac yn dweud: “Pwy ydy hwn sy’n amau fy nghynllun i, ac yn siarad heb ddeall dim? Torcha dy lewys fel dyn! Fi fydd yn gofyn y cwestiynau, a gei di ateb. Ble roeddet ti pan osodais i sylfeini’r ddaear? Ateb fi os wyt ti’n gwybod y cwbl! Pwy benderfynodd beth fyddai ei maint? – ti’n siŵr o fod yn gwybod! Pwy wnaeth ddefnyddio llinyn i’w mesur? Ar beth y gosodwyd ei sylfeini? Pwy osododd ei chonglfaen? Ble roeddet ti pan oedd sêr y bore yn canu gyda’i gilydd a holl angylion Duw yn gweiddi’n llawen? Pwy gaeodd y drysau ar y môr wrth iddo arllwys allan o’r groth? Fi roddodd gymylau yn wisg amdano, a’i lapio mewn niwl trwchus. Fi osododd derfyn iddo, a’i gadw tu ôl i ddrysau wedi’u bolltio. Dwedais, ‘Cei di ddod hyd yma, ond dim pellach; dyma lle mae ymchwydd dy donnau yn stopio!’ Wyt ti erioed wedi gorchymyn i’r bore ddod, a dangos i’r wawr ble i dorri, a sut i ledu a gafael yn ymylon y ddaear, ac ysgwyd y rhai drwg oddi arni? Mae ei siâp yn dod i’r golwg fel clai dan sêl, a ffurfiau’r tir i’w gweld fel plygion dilledyn. Mae’r golau’n tarfu ar y rhai drwg, ac mae’r fraich sy’n treisio’n cael ei thorri. Wyt ti wedi bod at y ffynhonnau sy’n llenwi’r môr, neu gerdded mannau dirgel y dyfnder? Ydy giatiau marwolaeth wedi’u dangos i ti? Wyt ti wedi gweld y giatiau i’r tywyllwch dudew? Oes gen ti syniad mor fawr ydy’r ddaear? Os wyt ti’n gwybod hyn i gyd – dywed wrtho i! Pa ffordd mae mynd i ble mae’r golau’n byw? O ble mae’r tywyllwch yn dod? Wyt ti’n gallu dangos ble mae ffiniau’r ddau, a dangos iddyn nhw sut i fynd adre? Mae’n siŵr dy fod, gan dy fod wedi dy eni bryd hynny, ac wedi bod yn fyw ers cymaint o flynyddoedd! Wyt ti wedi bod i mewn yn stordai’r eira, neu wedi gweld y storfeydd o genllysg sy’n cael eu cadw ar gyfer y dyddiau anodd, pan mae brwydrau a rhyfeloedd? Sut mae mynd i ble mae’r mellt yn cael eu gwasgaru? O ble daw gwynt y dwyrain i chwythu drwy’r byd? Pwy gerfiodd sianelau i’r stormydd glaw, a llwybrau i’r mellt a’r taranau, iddi lawio ar dir lle does neb yn byw, ac anialwch sydd heb unrhyw un yno? Mae’r tir anial sych yn cael ei socian, ac mae glaswellt yn tyfu drosto. Oes tad gan y glaw? Pwy genhedlodd y defnynnau gwlith? O groth pwy y daeth y rhew? Pwy roddodd enedigaeth i’r barrug, pan mae’r dŵr yn troi’n galed, ac wyneb y dyfroedd yn rhewi? Alli di blethu Pleiades neu ddatod belt Orion? Alli di ddod â’r planedau allan yn eu tymor, neu dywys yr Arth Fawr a’r Arth Fach? Wyt ti’n gyfarwydd â threfn y cosmos, a sut mae’n effeithio ar y ddaear? Alli di roi gorchymyn i’r cymylau i arllwys dŵr ar dy ben fel llif? Alli di alw ar y mellt i fflachio, a’u cael nhw i ateb, ‘Dyma ni’? Pwy sy’n rhoi doethineb i’r galon a deall i’r meddwl? Pwy sy’n ddigon clyfar i gyfri’r cymylau? Pwy sy’n gallu arllwys dŵr o gostreli’r awyr a gwneud i’r pridd lifo fel llaid, ac i’r talpiau o bridd lynu wrth ei gilydd? Wyt ti’n gallu hela ysglyfaeth i’r llewes, a rhoi bwyd i’r llewod ifanc sy’n gorwedd yn eu gwâl, neu’n llechu dan y llwyni am helfa? Pwy sy’n rhoi bwyd i’r gigfran pan mae ei chywion yn galw ar Dduw a hithau’n hedfan o gwmpas heb ddim?
Job 38:1-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt: “Pwy yw hwn sy'n tywyllu cyngor â geiriau diwybod? Gwna dy hun yn barod i'r ornest; fe holaf fi di, a chei dithau ateb. “Ble'r oeddit ti pan osodais i sylfaen i'r ddaear? Ateb, os gwyddost. Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siŵr dy fod yn gwybod! Pwy a estynnodd linyn mesur arni? Ar beth y seiliwyd ei sylfeini, a phwy a osododd ei chonglfaen? Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a'r holl angylion yn gorfoleddu, pan gaewyd ar y môr â dorau, pan lamai allan o'r groth, pan osodais gwmwl yn wisg amdano, a'r caddug yn rhwymyn iddo, a phan drefnais derfyn iddo, a gosod barrau a dorau, a dweud, ‘Hyd yma yr ei, a dim pellach, ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau’? “A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y bore a dangos ei lle i'r wawr, er mwyn iddi gydio yng nghonglau'r ddaear, i ysgwyd y drygionus ohoni? Y mae'n newid ffurf fel clai dan y sêl, ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn. Atelir eu goleuni oddi wrth y drygionus, a thorrir y fraich ddyrchafedig. “A fedri di fynd at ffynhonnell y môr, neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder? A agorwyd pyrth angau i ti, neu a welaist ti byrth y fagddu? A fedri di ddirnad maint y ddaear? Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd. “Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni, ac i le tywyllwch, fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn, a gwybod y llwybr i'w thŷ? Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno, a bod nifer dy ddyddiau yn fawr! “A fuost ti yn ystordai'r eira, neu'n gweld cistiau'r cesair? Dyma'r pethau a gedwais at gyfnod trallod, at ddydd brwydr a rhyfel. Prun yw'r ffordd i'r fan lle y rhennir goleuni, ac y gwasgerir gwynt y dwyrain ar y ddaear? “Pwy a wnaeth sianel i'r cenllif glaw, a llwybr i'r daranfollt, i lawio ar dir heb neb ynddo, a diffeithwch heb unrhyw un yn byw ynddo, i ddigoni'r tir diffaith ac anial, a pheri i laswellt dyfu yno? “A oes tad i'r glaw? Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith? O groth pwy y daw'r rhew? A phwy a genhedlodd y llwydrew, i galedu'r dyfroedd fel carreg, a rhewi wyneb y dyfnder? A fedri di gau cadwynau Pleiades, neu ddatod rhwymau Orion? A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd, a thywys yr Arth gyda'i phlant? A wyddost ti reolau'r awyr? A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn? “A fedri di alw ar y cwmwl i beri i ddyfroedd lifo drosot? A fedri di roi gorchymyn i'r mellt, iddynt ddod atat a dweud, ‘Dyma ni’? Pwy a rydd ddoethineb i'r cymylau, a deall i'r niwl? Gan bwy y mae digon o ddoethineb i gyfrif y cymylau? A phwy a wna i gostrelau'r nefoedd arllwys, nes bod llwch yn mynd yn llaid, a'r tywyrch yn glynu wrth ei gilydd? “Ai ti sydd yn hela ysglyfaeth i'r llew, a diwallu angen y llewod ifanc, pan grymant yn eu gwâl, ac aros dan lwyn am helfa? Pwy sy'n trefnu bwyd i'r frân, pan waedda'r cywion ar Dduw, a hedfan o amgylch heb fwyd?”
Job 38:1-41 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr ARGLWYDD a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth. Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti. Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall. Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi? Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi, Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion DUW? A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth? Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo, Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau, Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di. A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle, I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi? Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad. Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig. A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder? A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau? A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd. Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch, Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i’w dŷ ef? A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr? A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg, Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel? Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear? Pwy a rannodd ddyfrlle i’r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau, I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo? I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu? A oes dad i’r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith? O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd? Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder a rewodd. A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion? A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a’i feibion? A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear? A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi? A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni? Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon? Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd. Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd? A elli di hela ysglyfaeth i’r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod, Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn? Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar DDUW, gwibiant o eisiau bwyd.