Job 21:1-21
Job 21:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Job yn ateb: “Gwrandwch yn ofalus ar beth dw i’n ddweud; rhowch cyn lleied â hynny o gysur i mi! Rhowch gyfle i mi, ac ar ôl i mi gael dweud fy mhwt cewch wneud sbort. Ai cwyn yn erbyn person meidrol sydd gen i? Felly pam ga i ddim bod ychydig yn flin? Edrychwch arna i. Bydd hyn yn eich dychryn chi. Rhowch eich llaw dros eich ceg. Dw i’n arswydo wrth feddwl am y peth! Mae fy nghorff yn crynu drwyddo. Pam mae’r rhai drwg yn cael dal i fyw a heneiddio a mynd yn fwy a mwy pwerus? Mae eu plant yn cael bywyd da gyda nhw, ac maen nhw’n byw i weld plant eu plant. Mae eu cartrefi’n saff, does dim rhaid ofni, a dŷn nhw ddim yn profi gwialen Duw’n eu cosbi. Mae eu teirw’n bridio heb fethu, a’u gwartheg yn cael lloi heb golli’r un. Mae eu plant bach yn cael rhedeg yn rhydd, ac yn prancio o gwmpas yn hapus fel ŵyn, yn canu’n llon gyda’r tambwrîn a’r delyn, a mwynhau gwrando ar alaw’r ffliwt. Maen nhw’n cael byw yn braf am flynyddoedd, ac yna marw’n dawel a mynd i’r bedd mewn heddwch. Eu hagwedd at Dduw ydy, ‘Gad lonydd i ni, does gynnon ni ddim eisiau gwybod am dy ffyrdd di! Pwy ydy’r Un sy’n rheoli popeth? Pam ddylen ni ei wasanaethu? Beth ydy’r pwynt i ni weddïo arno?’ Ond dŷn nhw ddim yn llwyddo yn eu nerth eu hunain. Dydy ffordd y rhai drwg o feddwl yn gwneud dim sens i mi! Pa mor aml mae lamp pobl ddrwg yn cael ei diffodd yn annisgwyl? Pa mor aml mae trychineb yn dod ar eu traws? Pa mor aml mae Duw’n gwneud iddyn nhw ddiodde am ei fod yn ddig? Pa mor aml maen nhw’n cael eu chwythu i ffwrdd fel gwellt, neu fel us yn cael ei gipio ymaith gan y gwynt? Ydy Duw yn cosbi plant yr annuwiol yn eu lle? Dylai gosbi’r annuwiol eu hunain – iddyn nhw ddysgu eu gwers! Gad iddyn nhw brofi dinistr eu hunain, ac yfed o ddigofaint yr Un sy’n rheoli popeth! Dŷn nhw’n poeni dim beth fydd yn digwydd i’w teuluoedd pan fydd eu dyddiau eu hunain wedi dod i ben!
Job 21:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Job: “Gwrandewch eto ar fy ngeiriau; felly y rhowch gysur imi. Goddefwch i mi lefaru, ac wedi imi lefaru, cewch watwar. Oni chaf ddweud fy nghwyn wrth rywun? a pham na chaf fod yn ddiamynedd? Edrychwch arnaf, a synnwch, a rhowch eich llaw ar eich genau. Pan ystyriaf hyn, rwy'n arswydo, a daw cryndod i'm cnawd. “Pam y caiff yr annuwiol fyw, a heneiddio'n gadarnach eu nerth? Y mae eu plant yn byw o'u cwmpas, a'u teulu yn eu hymyl. Y mae eu tylwyth yn ddiogel oddi wrth ddychryn, ac ni ddaw dyrnod Duw arnynt. Y mae eu tarw'n cyfloi yn ddi-feth, a'u buwch yn bwrw lloi heb erthylu. Caiff eu plantos grwydro'n rhydd fel defaid, a dawnsia'u plant yn hapus. Canant gyda'r dympan a'r delyn, a byddant lawen wrth sŵn y pibau. Treuliant eu dyddiau mewn esmwythyd, a disgynnant i Sheol mewn heddwch. Dywedant wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym; ni fynnwn wybod dy ffyrdd. Pwy yw'r Hollalluog i ni ei wasanaethu, a pha fantais sydd inni os gweddïwn arno?’ “Ai yn eu dwylo'u hunain y mae eu ffyniant? Pell yw cyngor y drygionus oddi wrth Dduw. “Pa mor aml y diffoddir lamp yr annuwiol, ac y daw eu dinistr arnynt hwy, ac y tynghedir hwy i boen gan ei lid? A ydynt hwy fel gwelltyn o flaen y gwynt, neu fel us a ddygir ymaith gan y storm? A geidw Duw ddinistr rhiant i'w blant? Na, taled iddo ef ei hun, a'i ddarostwng. Bydded i'w lygaid ei hun weld ei ddinistr, ac yfed o lid yr Hollalluog. Pa ddiddordeb fydd ganddo yn ei deulu ar ei ôl, pan fydd nifer ei fisoedd wedi darfod?
Job 21:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Job a atebodd ac a ddywedodd, Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd; a bydded hyn yn lle eich cysur. Dioddefwch fi, a minnau a lefaraf; ac wedi i mi ddywedyd, gwatwerwch. A minnau, ydwyf fi yn gwneuthur fy nghwyn wrth ddyn? ac os ydwyf, paham na byddai gyfyng ar fy ysbryd? Edrychwch arnaf, a synnwch: a gosodwch eich llaw ar eich genau. Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd. Paham y mae yr annuwiolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth? Eu had hwy sydd safadwy o’u blaen gyda hwynt, a’u hiliogaeth yn eu golwg. Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn; ac nid ydyw gwialen DUW arnynt hwy. Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi, ac ni chyll ei had; ei fuwch ef a fwrw lo, ac nid erthyla. Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell, a’u bechgyn a neidiant. Cymerant dympan a thelyn, a llawenychant wrth lais yr organ. Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y disgynnant i’r bedd. Dywedant hefyd wrth DDUW, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd. Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno? Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi. Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion? ac y daw eu dinistr arnynt hwy? DUW a ran ofidiau yn ei ddig. Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt, ac fel mân us yr hwn a gipia’r corwynt. DUW a guddia ei anwiredd ef i’w feibion: efe a dâl iddo, ac efe a’i gwybydd. Ei lygaid a welant ei ddinistr ef; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog. Canys pa wynfyd sydd ganddo ef yn ei dŷ ar ei ôl, pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef?