Job 19:23-29
Job 19:23-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O na fyddai fy ngeiriau yn cael eu hysgrifennu i lawr, a’u cofnodi’n glir mewn sgrôl; eu naddu ar graig gyda chŷn haearn, a’u llenwi â phlwm i gael eu gweld am byth! Ond dw i’n gwybod fod fy Amddiffynnwr yn fyw, ac yn y diwedd y bydd yn sefyll ar y ddaear i dystio ar fy rhan, hyd yn oed ar ôl i’m croen i gael ei ddifa. Ond cael gweld Duw tra dw i’n dal yn fyw – dyna dw i eisiau, ei weld drosof fy hun; i’m llygaid i ei weld, nid rhywun arall: dw i’n hiraethu am hynny fwy na dim. Wrth ofyn, ‘Sut allwn ni ei erlid e?’ ac wrth ddweud, ‘Arno fe’i hun mae’r bai!’ dylech chi ofni cael eich cosbi eich hunain – mae eich dicter chi’n haeddu ei gosbi â’r cleddyf! Cofiwch fod yna farn i ddod!”
Job 19:23-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O na fyddai fy ngeiriau wedi eu hysgrifennu! O na chofnodid hwy mewn llyfr, wedi eu hysgrifennu â phin haearn a phlwm, a'u naddu ar garreg am byth! Oherwydd gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw, ac y saif o'm plaid yn y diwedd; ac wedi i'm croen ddifa fel hyn, eto o'm cnawd caf weld Duw. Fe'i gwelaf ef o'm plaid; ie, fy llygaid fy hun a'i gwêl, ac nid yw'n ddieithr. Y mae fy nghalon yn dyheu o'm mewn. “Os dywedwch, ‘Y fath erlid a fydd arno, gan fod gwreiddyn y drwg ynddo,’ yna arswydwch rhag y cleddyf, oherwydd daw cynddaredd â chosb y cleddyf, ac yna y cewch wybod fod barn.”
Job 19:23-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr! O nad argreffid hwynt mewn llyfr! O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm! Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear. Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha’r corff hwn, eto caf weled DUW yn fy nghnawd: Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a’m llygaid a’i gwelant, ac nid arall; er i’m harennau ddarfod ynof. Eithr chwi a ddylech ddywedyd, Paham yr erlidiwn ef? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof. Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf: canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf, fel y gwybyddoch fod barn.