Job 14:1-17
Job 14:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Byr ydy bywyd dyn, wedi’i eni o wraig, ac mae ei ddyddiau yn llawn trafferthion. Mae’n blodeuo ac yna’n gwywo; mae’n diflannu fel cysgod, a byth yn aros. Ai ar un felly wyt ti’n syllu? Wyt ti am fy rhoi i ar brawf? Pwy all wneud yr aflan yn lân? Does neb! Mae dyddiau rhywun wedi’u rhifo; ti’n gwybod faint o fisoedd fydd e’n byw ac wedi gosod ffin fydd e byth yn ei chroesi. Edrych i ffwrdd a gad lonydd iddo, fel gwas cyflog wedi gorffen ei waith. Mae gobaith i goeden dyfu eto ar ôl cael ei thorri i lawr. Fydd ei blagur newydd ddim yn methu. Er bod ei gwreiddiau’n hen yn y pridd, a’i boncyff wedi dechrau pydru, mae’n synhwyro dŵr ac yn blaguro eto, a’i brigau’n tyfu fel petai newydd ei phlannu. Ond mae’r dyn cryfaf yn marw heb gryfder; mae’n anadlu am y tro olaf, ac mae wedi mynd. Fel dŵr yn diflannu o lyn, neu afon yn llifo i ffwrdd ac yn sychu. Mae pobl feidrol yn gorwedd a byth yn codi; fydd dim deffro na chodi o’u cwsg tra bydd yr awyr yn dal i fod. O na fyddet ti’n fy nghuddio’n saff yn y bedd, a’m cadw o’r golwg nes i dy ddigofaint fynd heibio; yna gosod amser penodol i’m cofio i eto. Ar ôl i rywun farw, fydd e’n cael byw eto? Ar hyd fy mywyd caled byddwn i’n disgwyl i rywun ddod i’m rhyddhau. Byddet ti’n galw, a byddwn innau’n dod; byddet yn hiraethu am waith dy ddwylo. Byddet ti’n gofalu amdana i bob cam, heb wylio am fy mhechod o hyd. Byddai pob trosedd o’r golwg mewn bag wedi’i selio, a’m pechod wedi’i guddio dan orchudd.
Job 14:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Y mae pob un a anwyd o wraig yn fyr ei oes ac yn llawn helbul. Y mae fel blodeuyn yn tyfu ac yna'n gwywo; diflanna fel cysgod ac nid erys. A roi di sylw i un fel hyn, a'i ddwyn ef i farn gyda thi? Pwy a gaiff lendid allan o aflendid? Neb! Gan fod terfyn i'w ddyddiau, a chan iti rifo'i fisoedd, a gosod iddo ffin nas croesir, yna tro oddi wrtho fel y caiff lonydd, fel gwas cyflog yn mwynhau ei ddiwrnod gwaith. “Er i goeden gael ei thorri, y mae gobaith iddi ailflaguro, ac ni pheidia ei blagur â thyfu. Er i'w gwraidd heneiddio yn y ddaear, ac i'w boncyff farweiddio yn y pridd, pan synhwyra ddŵr fe adfywia, ac fe flagura fel planhigyn ifanc. Ond pan fydd rhywun farw, â'n ddinerth, a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach. Derfydd y dŵr o'r llyn; disbyddir a sychir yr afon; felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd, ni ddeffry tra pery'r nefoedd, ac nis cynhyrfir o'i gwsg. O na bait yn fy nghuddio yn Sheol, ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio, a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof! (Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?) Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur, hyd nes i'm rhyddhad ddod. Gelwit arnaf, ac atebwn innau; hiraethit am waith dy ddwylo. Yna cedwit gyfrif o'm camre, heb wylio fy mhechod; selid fy nhrosedd mewn cod, a chuddid fy nghamwedd.
Job 14:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul. Fel blodeuyn y daw allan, ac y torrir ef ymaith; ac efe â gilia fel cysgod, ac ni saif. A agori di dy lygaid ar y fath yma? ac a ddygi di fi i farn gyda thi? Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? neb. Gan fod ei ddyddiau ef wedi eu rhagderfynu, rhifedi ei fisoedd ef gyda thi, a gosod ohonot ei derfynau, fel nad êl drostynt: Tro oddi wrtho, fel y gorffwyso, hyd oni orffenno, fel gwas cyflog, ei ddiwrnod. Canys y mae gobaith o bren, er ei dorri, y blagura efe eto, ac na phaid ei flagur ef â thyfu. Er heneiddio ei wreiddyn ef yn y ddaear, a marweiddio ei foncyff ef yn y pridd; Efe a flagura oddi wrth arogl dyfroedd, ac a fwrw ganghennau fel planhigyn. Ond gŵr a fydd marw, ac a dorrir ymaith; a dyn a drenga, a pha le y mae? Fel y mae dyfroedd yn pallu o’r môr, a’r afon yn myned yn ddihysbydd, ac yn sychu: Felly gŵr a orwedd, ac ni chyfyd hyd oni byddo heb nefoedd; ni ddihunant, ac ni ddeffroant o’u cwsg. O na chuddit fi yn y bedd! na’m cedwit yn ddirgel, nes troi dy lid ymaith! na osodit amser nodedig i mi, a’m cofio! Os bydd gŵr marw, a fydd efe byw drachefn? disgwyliaf holl ddyddiau fy milwriaeth, hyd oni ddelo fy nghyfnewidiad. Gelwi, a myfi a’th atebaf; chwenychi waith dy ddwylo. Canys yr awr hon y rhifi fy nghamre: onid wyt yn gwylied ar fy mhechod? Fy nghamwedd a selied mewn cod; a thi a wnïaist i fyny fy anwiredd.