Job 13:5-12
Job 13:5-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O na fyddech chi’n cau eich cegau! Dyna fyddai’r peth callaf i chi ei wneud. Gwrandwch ar beth sydd gen i i’w ddweud; rhowch gyfle i mi ddadlau fy achos. Ydych chi’n dweud y pethau annheg yma ar ran Duw? Ydych chi’n dweud celwydd er ei fwyn e? Ydych chi am adael i Dduw ddweud rhywbeth? Neu oes angen i chi ei amddiffyn e? Sut fydd hi arnoch chi pan fydd e’n eich archwilio chi? Neu allwch chi ei dwyllo fe fel dych chi’n twyllo pobl? Bydd e’n siŵr o’ch ceryddu chi am ddangos ffafr annheg ar y slei. Bydd ei ysblander yn codi arswyd arnoch chi, a bydd ei ofn yn cydio ynoch. Geiriau gwag ydy’ch dywediadau slic chi; atebion disylwedd, yn frau fel clai.
Job 13:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O na fyddech yn cadw'n ddistaw! Hynny a fyddai'n ddoeth i chwi. Gwrandewch yn awr ar fy achos, a rhowch ystyriaeth i'm dadl. A ddywedwch gelwydd dros Dduw, a thwyll er ei fwyn? A gymerwch chwi ei blaid, a dadlau dros Dduw? A fydd yn dda arnoch pan chwilia ef chwi? A ellwch ei dwyllo ef fel y twyllir meidrolyn? Bydd ef yn sicr o'ch ceryddu os cymerwch ffafriaeth yn y dirgel. Onid yw ei fawredd yn eich dychryn? Oni ddisgyn ei arswyd arnoch? Geiriau lludw yw eich gwirebau, a chlai yw eich amddiffyniad.
Job 13:5-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O gan dewi na thawech! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb. Clywch, atolwg, fy rheswm, a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau. A ddywedwch chwi anwiredd dros DDUW? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef? A dderbyniwch chwi ei wyneb ef? a ymrysonwch chwi dros DDUW? Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn? Gan geryddu efe a’ch cerydda chwi, os derbyniwch wyneb yn ddirgel. Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch? Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi; a’ch cyrff i gyrff o glai.