Ioan 8:21-30
Ioan 8:21-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedodd Iesu wrthyn nhw dro arall, “Dw i’n mynd i ffwrdd. Byddwch chi’n edrych amdana i, ond yn marw yn eich pechod. Dych chi ddim yn gallu dod ble dw i’n mynd.” Gwnaeth hyn i’r arweinwyr a phobl Jwdea ofyn, “Ydy e’n mynd i ladd ei hun neu rywbeth? Ai dyna pam mae’n dweud, ‘Dych chi ddim yn gallu dod i ble dw i’n mynd’?” Ond aeth yn ei flaen i ddweud, “Dych chi’n dod o’r ddaear; dw i’n dod oddi uchod. O’r byd hwn dych chi’n dod; ond dw i ddim yn dod o’r byd hwn. Dyna pam ddwedais i y byddwch chi’n marw yn eich pechod – os wnewch chi ddim credu mai fi ydy e, byddwch chi’n marw yn eich pechod.” “Mai ti ydy pwy?” medden nhw. “Yn union beth dw i wedi’i ddweud o’r dechrau,” atebodd Iesu. “Mae gen i lawer i’w ddweud amdanoch chi, a digon i’w gondemnio. Mae’r un sydd wedi fy anfon i yn dweud y gwir, a beth dw i wedi’i glywed ganddo fe dw i’n ei gyhoeddi i’r byd.” Doedden nhw ddim yn deall ei fod yn siarad am Dduw y Tad. Felly dwedodd Iesu, “Pan fyddwch wedi fy nghodi i, Mab y Dyn, i fyny, dyna pryd byddwch chi’n gwybod mai fi ydy e, ac nad ydw i yn gwneud dim ar fy mhen fy hun, dim ond dweud beth mae’r Tad wedi’i ddysgu i mi. Mae’r un sydd wedi fy anfon i gyda mi; dydy e ddim wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, achos dw i bob amser yn gwneud beth sy’n ei blesio.” Daeth llawer o bobl i gredu ynddo tra oedd yn siarad.
Ioan 8:21-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd wrthynt wedyn, “Yr wyf fi'n ymadael â chwi. Fe chwiliwch amdanaf fi, ond byddwch farw yn eich pechod. Lle'r wyf fi'n mynd, ni allwch chwi ddod.” Meddai'r Iddewon felly, “A yw'n mynd i'w ladd ei hun, gan ei fod yn dweud, ‘Lle'r wyf fi'n mynd, ni allwch chwi ddod’?” Meddai Iesu wrthynt, “Yr ydych chwi oddi isod, yr wyf fi oddi uchod. Yr ydych chwi o'r byd hwn, nid wyf fi o'r byd hwn. Dyna pam y dywedais wrthych y byddwch farw yn eich pechodau; oherwydd marw yn eich pechodau a wnewch, os na chredwch mai myfi yw.” Gofynasant iddo felly, “Pwy wyt ti?” Atebodd Iesu hwy, “Yr wyf o'r dechrau yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych. Gallwn ddweud llawer amdanoch, a hynny mewn barn. Ond y mae'r hwn a'm hanfonodd i yn eirwir, a'r hyn a glywais ganddo ef yw'r hyn yr wyf yn ei gyhoeddi i'r byd.” Nid oeddent hwy'n deall mai am y Tad yr oedd yn llefaru wrthynt. Felly dywedodd Iesu wrthynt, “Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw, ac nad wyf yn gwneud dim ohonof fy hun, ond fy mod yn dweud yr union bethau y mae'r Tad wedi eu dysgu imi. Ac y mae'r hwn a'm hanfonodd i gyda mi; nid yw wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, oherwydd yr wyf bob amser yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd ef.” Wrth iddo ddweud hyn, daeth llawer i gredu ynddo.
Ioan 8:21-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a’m ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Chwychwi sydd oddi isod; minnau sydd oddi uchod: chwychwi sydd o’r byd hwn; minnau nid wyf o’r byd hwn. Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau. Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o’r dechreuad. Y mae gennyf fi lawer o bethau i’w dywedyd ac i’w barnu amdanoch chwi: eithr cywir yw’r hwn a’m hanfonodd i; a’r pethau a glywais i ganddo, y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i’r byd. Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pan ddyrchafoch chwi Fab y dyn, yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim ohonof fy hun; ond megis y dysgodd fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn. A’r hwn a’m hanfonodd i sydd gyda myfi: ni adawodd y Tad fi yn unig; oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd fodlon ganddo ef. Fel yr oedd efe yn llefaru’r pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef.