Ioan 7:37-39
Ioan 7:37-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesu’n sefyll ac yn cyhoeddi’n uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr sy’n rhoi bywyd yn llifo o’r rhai hynny!’ ” (Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wedi’i anrhydeddu.)
Ioan 7:37-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ddydd olaf yr ŵyl, y dydd mawr, safodd Iesu a chyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n sychedig, deued ataf fi ac yfed. Allan o'r sawl sy'n credu ynof fi, fel y dywedodd yr Ysgrythur, y bydd ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo.” Sôn yr oedd am yr Ysbryd yr oedd y rhai a gredodd ynddo ef yn mynd i'w dderbyn. Oherwydd nid oedd yr Ysbryd ganddynt eto, am nad oedd Iesu wedi cael ei ogoneddu eto.
Ioan 7:37-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar y dydd diwethaf, y dydd mawr o’r ŵyl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued ataf fi, ac yfed. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, megis y dywedodd yr ysgrythur, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o’i groth ef. (A hyn a ddywedodd efe am yr Ysbryd, yr hwn a gâi’r rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys eto nid oedd yr Ysbryd Glân wedi ei roddi, oherwydd na ogoneddasid yr Iesu eto.)