Ioan 17:20-21
Ioan 17:20-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Nid dim ond drostyn nhw dw i’n gweddïo. Dw i’n gweddïo hefyd dros bawb fydd yn credu ynof fi drwy eu neges nhw; dw i’n gweddïo y byddan nhw i gyd yn un, Dad, yn union fel rwyt ti a fi yn un. Dw i am iddyn nhw hefyd fod wedi’u huno â ni er mwyn i’r byd gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.
Ioan 17:20-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ond nid dros y rhain yn unig yr wyf yn gweddïo, ond hefyd dros y rhai fydd yn credu ynof fi trwy eu gair hwy. Rwy'n gweddïo ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O Dad, ynof fi a minnau ynot ti, iddynt hwy hefyd fod ynom ni, er mwyn i'r byd gredu mai tydi a'm hanfonodd i.
Ioan 17:20-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd hwynt: Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo’r byd mai tydi a’m hanfonaist i.