Ioan 16:22-23
Ioan 16:22-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yr un fath gyda chi: Dych chi’n teimlo’n drist ar hyn o bryd. Ond bydda i’n eich gweld chi eto a byddwch yn dathlu, a fydd neb yn gallu dwyn eich llawenydd oddi arnoch chi. Fydd dim cwestiynau gynnoch chi i’w gofyn y diwrnod hwnnw. Credwch chi fi, bydd fy Nhad yn rhoi i chi beth bynnag ofynnwch i mi am awdurdod i’w wneud.
Ioan 16:22-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly chwithau, yr ydych yn awr mewn tristwch. Ond fe'ch gwelaf chwi eto, ac fe lawenha eich calon, ac ni chaiff neb ddwyn eich llawenydd oddi arnoch. Y dydd hwnnw ni byddwch yn holi dim arnaf. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, beth bynnag a ofynnwch gan y Tad yn fy enw i, bydd ef yn ei roi ichwi.
Ioan 16:22-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch. A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi.