Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 15:1-13

Ioan 15:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Fi ydy’r winwydden go iawn, a Duw, fy Nhad i, ydy’r garddwr. Mae’n llifio i ffwrdd unrhyw gangen sydd heb ffrwyth yn tyfu arni. Ond os oes ffrwyth yn tyfu ar gangen, mae’n trin ac yn tocio’r gangen honno’n ofalus er mwyn i fwy o ffrwyth dyfu arni. Dych chi wedi cael eich trin gan yr hyn dw i wedi’i ddweud wrthoch chi. Arhoswch ynof fi, ac arhosa i ynoch chi. Fydd ffrwyth ddim yn tyfu ar gangen oni bai ei bod hi’n dal ar y winwydden. All eich bywydau chi ddim bod yn ffrwythlon oni bai eich bod chi wedi’ch cysylltu â mi. “Fi ydy’r winwydden; chi ydy’r canghennau. Os gwnewch chi aros ynof fi, a minnau ynoch chi, bydd digonedd o ffrwyth yn eich bywydau. Ond allwch chi wneud dim ar wahân i mi. Os gwnewch chi ddim aros ynof fi, byddwch fel y gangen sy’n cael ei thaflu i ffwrdd ac sy’n gwywo. Mae’r canghennau hynny’n cael eu casglu a’u taflu i’r tân i’w llosgi. Os arhoswch ynof fi, a dal gafael yn beth ddwedais i, gofynnwch i Dduw am unrhyw beth, a byddwch yn ei gael. Bydd eich bywydau yn llawn ffrwyth. Bydd hi’n amlwg eich bod yn ddisgyblion i mi, a bydd fy Nhad yn cael ei anrhydeddu. “Dw i wedi’ch caru chi yn union fel mae’r Tad wedi fy ngharu i. Arhoswch yn fy nghariad i. Byddwch yn aros yn fy nghariad i drwy wneud beth dw i’n ddweud, fel dw i wedi bod yn ufudd i’m Tad ac wedi aros yn ei gariad e. Dw i wedi dweud y pethau yma er mwyn i chi rannu fy llawenydd i. Byddwch chi’n wirioneddol hapus! Dyma dw i’n ei orchymyn: Carwch eich gilydd fel dw i wedi’ch caru chi. Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau.

Ioan 15:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Myfi yw'r wir winwydden, a'm Tad yw'r gwinllannwr. Y mae ef yn torri i ffwrdd bob cangen ynof fi nad yw'n dwyn ffrwyth, ac yn glanhau pob un sydd yn dwyn ffrwyth, er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth. Yr ydych chwi eisoes yn lân trwy'r gair yr wyf wedi ei lefaru wrthych. Arhoswch ynof fi, a minnau ynoch chwi. Ni all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, heb iddi aros yn y winwydden; ac felly'n union ni allwch chwithau heb i chwi aros ynof fi. Myfi yw'r winwydden; chwi yw'r canghennau. Y mae'r sawl sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, yn dwyn llawer o ffrwyth, oherwydd ar wahân i mi ni allwch wneud dim. Os na fydd rhywun yn aros ynof fi, caiff ei daflu i ffwrdd fel y gangen ddiffrwyth, ac fe wywa; dyma'r canghennau a gesglir, i'w taflu i'r tân a'u llosgi. Os arhoswch ynof fi, ac os erys fy ngeiriau ynoch chwi, gofynnwch am beth a fynnwch, ac fe'i rhoddir ichwi. Dyma sut y gogoneddir fy Nhad: trwy i chwi ddwyn llawer o ffrwyth a bod yn ddisgyblion i mi. Fel y mae'r Tad wedi fy ngharu i, yr wyf finnau wedi eich caru chwi. Arhoswch yn fy nghariad i. Os cadwch fy ngorchmynion fe arhoswch yn fy nghariad, yn union fel yr wyf fi wedi cadw gorchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef. “Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i'm llawenydd i fod ynoch, ac i'ch llawenydd chwi fod yn gyflawn. Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi. Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.