Ioan 14:24-26
Ioan 14:24-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fydd pwy bynnag sydd ddim yn fy ngharu ddim yn gwneud beth dw i’n ddweud. A dim fy neges i fy hun dw i’n ei rhannu, ond neges gan y Tad sydd wedi fy anfon i. “Dw i wedi dweud y pethau yma tra dw i’n dal gyda chi. Ond mae un fydd yn sefyll gyda chi, sef yr Ysbryd Glân mae’r Tad yn mynd i’w anfon ar fy rhan. Bydd e’n dysgu popeth i chi ac yn eich atgoffa o bopeth dw i wedi’i ddweud.
Ioan 14:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid yw'r sawl nad yw'n fy ngharu i yn cadw fy ngeiriau i. A'r gair hwn yr ydych chwi yn ei glywed, nid fy ngair i ydyw, ond gair y Tad a'm hanfonodd i. “Yr wyf wedi dweud hyn wrthych tra wyf yn aros gyda chwi. Ond bydd yr Eiriolwr, yr Ysbryd Glân, a anfona'r Tad yn fy enw i, yn dysgu popeth ichwi, ac yn dwyn ar gof ichwi y cwbl a ddywedais i wrthych.
Ioan 14:24-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a’r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo’r Tad a’m hanfonodd i. Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyda chwi. Eithr y Diddanydd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi’r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi’r holl bethau a ddywedais i chwi.