Ioan 12:9-11
Ioan 12:9-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd tyrfa fawr o bobl Jwdea wedi darganfod fod Iesu yn Bethania. Dyma nhw’n mynd yno, ddim jest i weld Iesu, ond hefyd i weld Lasarus yr un ddaeth Iesu ag e’n ôl yn fyw. Ond roedd y prif offeiriaid wedi penderfynu fod rhaid cael gwared â Lasarus hefyd, am fod llawer o bobl Jwdea wedi’u gadael nhw a dod i gredu yn Iesu o’i achos e.
Ioan 12:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth tyrfa fawr o'r Iddewon i wybod ei fod yno, a daethant ato, nid o achos Iesu yn unig, ond er mwyn gweld Lasarus hefyd, y dyn yr oedd ef wedi ei godi oddi wrth y meirw. Ond gwnaeth y prif offeiriaid gynllwyn i ladd Lasarus hefyd, gan fod llawer o'r Iddewon, o'i achos ef, yn gwrthgilio ac yn credu yn Iesu.
Ioan 12:9-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iddewon ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lasarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw. Eithr yr archoffeiriaid a ymgyngorasant fel y lladdent Lasarus hefyd: Oblegid llawer o’r Iddewon a aethant ymaith o’i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.