Ioan 12:1-6
Ioan 12:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bum diwrnod cyn Gŵyl y Pasg cyrhaeddodd Iesu Bethania, lle roedd Lasarus yn byw (y dyn wnaeth Iesu ddod ag e’n ôl yn fyw). Roedd swper wedi’i drefnu i anrhydeddu Iesu. Roedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o’r rhai oedd yn eistedd gydag Iesu wrth y bwrdd. Daeth Mair i mewn gyda jar hanner litr o nard pur, oedd yn bersawr drud iawn. Tywalltodd y persawr ar draed Iesu ac wedyn sychu ei draed â’i gwallt. Roedd arogl y persawr i’w glywed drwy’r tŷ i gyd. Ond yna dyma Jwdas Iscariot (y disgybl oedd yn mynd i fradychu Iesu yn nes ymlaen) yn protestio, “Roedd y persawr yna’n werth ffortiwn! Dylid bod wedi’i werthu, a rhoi’r arian i bobl dlawd!” (Doedd e ddim wir yn poeni am y tlodion. Beth oedd tu ôl i’w eiriau oedd y ffaith ei fod yn lleidr. Roedd Iesu a’i ddisgyblion yn rhannu un pwrs, a Jwdas oedd yn gyfrifol amdano, ond byddai’n arfer helpu ei hun i’r arian.)
Ioan 12:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth Iesu i Fethania, lle'r oedd Lasarus yn byw, y dyn yr oedd wedi ei godi oddi wrth y meirw. Yno gwnaethpwyd iddo swper; yr oedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd gydag ef wrth y bwrdd. A chymerodd Mair fesur o ennaint costfawr, nard pur, ac eneiniodd draed Iesu a'u sychu â'i gwallt. A llanwyd y tŷ gan bersawr yr ennaint. A dyma Jwdas Iscariot, un o'i ddisgyblion, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud, “Pam na werthwyd yr ennaint hwn am dri chant o ddarnau arian, a'i roi i'r tlodion?” Ond fe ddywedodd hyn, nid am fod gofal ganddo am y tlodion, ond am mai lleidr ydoedd, yn cymryd o'r cyfraniadau yn y god arian oedd yn ei ofal.
Ioan 12:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Fethania, lle yr oedd Lasarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw. Ac yno y gwnaethant iddo swper; a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lasarus oedd un o’r rhai a eisteddent gydag ef. Yna y cymerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint. Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef, Jwdas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef, Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog, a’i roddi i’r tlodion? Eithr hyn a ddywedodd efe, nid oherwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo’r pwrs, a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo.