Ioan 1:1-5
Ioan 1:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef.
Ioan 1:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Roedd gyda Duw o’r dechrau cyntaf un. Drwyddo y crëwyd popeth sy’n bod. Does dim yn bodoli ond beth greodd e. Ynddo fe roedd bywyd, a’r bywyd hwnnw’n rhoi golau i bobl. Mae’r golau’n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a’r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd.
Ioan 1:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef.
Ioan 1:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r bywyd oedd oleuni dynion. A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.